Ceir Pwll Trydan Cwestiynau Cyffredinol
Diweddarwyd y dudalen: 01/10/2024
Rydym wedi derbyn amrywiaeth o gwestiynau gan staff ynglŷn â defnyddio cerbydau trydan. Hoffem rannu'r rhain fel Cwestiynau Cyffredin i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol.
Mae'n rhaid i chi fod â'r drwydded yrru berthnasol.
Cyn defnyddio unrhyw geir trydan, rhaid i'r holl staff gwblhau sesiwn ymgyfarwyddo i yrwyr. Gallwch archebu'r rhain drwy e-bostio:
Ryan Robinson: RMRobinson@sirgar.gov.uk
Iwan Richards: IJRichards@sirgar.gov.uk
Sut i agor a gweld Calendrau
Gellir gweld argaeledd y ceir drwy wirio Microsoft Outlook ac edrych ar y dyddiaduron o dan 'Calendar’.
Mae sawl ffordd i agor y calendrau, un o'r rhain yw:
1. Agor Microsoft Outlook a chlicio ar yr 2il opsiwn 'Calendr' ar waelod ochr chwith Microsoft Outlook.
2. O dan y pennawd Hafan, cliciwch ar 'Ychwanegu at y calendr...' a dewiswch yr opsiwn cyntaf, 'O'r llyfr cyfeiriadau…’
3. Bydd opsiwn yn ymddangos yng nghanol eich sgrin yn nodi 'Dewiswch enw: Pob defnyddiwr'. Yn y maes Chwilio, teipiwch 'Pool Vehicle Parc Myrddin' a dylai'r calendrau ar gyfer pob cerbyd ymddangos.
4. Gallwch ddewis bob un yn unigol neu gallwch ddewis y cyfan.
5. Bydd rhain bellach yn cael eu harddangos yn barhaus fel opsiwn i'w gweld ar gyfer y dyfodol, ar ochr chwith y sgrin', dan 'Calendrau a Rennir'.
Sut i Archebu
1. Agorwch Outlook, dewiswch yr eicon Calendr ar waelod y sgrin ar yr ochr chwith.
2. Cliciwch ar y botwm 'Cyfarfod newydd' yn yr adran 'Hafan'. Mae ffenestr arall wag yn agor - Cyfarfod (gweler y dudalen nesaf).
3. Yn y maes Teitl, rhowch eich enw ac yn y maes Lleoliad, rhowch eich cyrchfan(au).
4. Dewiswch y dyddiad a'r amseroedd gofynnol.
5. Yn y blwch 'Required', teipiwch 'Pool Vehicle Parc Myrddin' a dewiswch y cerbyd yr hoffech ei archebu. Os yw calendr y cerbyd eisoes wedi cael ei glicio, bydd hyn yn ymddangos yn awtomatig.
6. Pan fydd pob maes yn llawn, cliciwch ar Anfon.
Proses Archebu a Defnyddio
- Gwirio argaeledd ar-lein
- Archebu'r car am yr amser angenrheidiol
- Casglu'r allweddi, y llyfr cofnodi milltiroedd, a'r llyfr diffygion o'r Swyddfa Cymorth Busnes, Llawr Gwaelod Bloc 1, Parc Myrddin.
- Symud y car o'r pwynt gwefru trydan
- Cwblhau'r llyfr diffygion gwyrdd cyn eich taith
- Cwblhau'r llyfr cofnodi milltiroedd cyn eich taith
- Llenwi'r car â thanwydd gan ddefnyddio'r depo (os ydych yn defnyddio car disel)
- Dychwelwch y car i Barc Myrddin ar ddiwedd eich taith a defnyddiwch gilfachau parcio'r pwll (dim ond un cerbyd trydan sydd wedi'i leoli yn Nhrostre, rhaid dychwelyd y cerbyd hwn i Drostre. Ni ellir dychwelyd unrhyw gerbyd arall i Ddepo Trostre).
- Plygio'r car i bwynt gwefru trydan
- Cwblhau'r llyfr cofnodi milltiroedd/llyfr diffygion ar ôl eich taith
- Dychwelyd yr allweddi, llyfr cofnodi milltiroedd/llyfr diffygion i'r swyddfa gyffredinol
- E-bostiwch envbsufleet@sirgar.gov.uk i roi gwybod am unrhyw broblemau ar ôl defnyddio'r car
Ar gyfer ein cerbydau sydd wedi'u lleoli yn Nhrostre bydd y cerbydau ym mhrif Faes Parcio Trostre a chedwir allweddi yn Nerbynfa'r Fflyd sydd â staff dyddiol. Gellir casglu allweddi o 8yb-4yp, bydd angen i'ch archebion calendr adlewyrchu'r amser y byddwch yn codi'r allweddi a'u gollwng. Ni all staff y fflyd gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â cheir pwll.
Ar gyfer ein cerbydau sydd wedi’u lleoli ym Mharc Myrddin bydd y cerbydau’n cael eu parcio yn y Maes Parcio uchaf y tu allan i Floc 1 a chedwir allweddi yn y swyddfa llawr gwaelod (drws nesaf i swyddfa gwasanaethau parcio) yn y cwpwrdd allweddi y tu ôl i’r drws. Gellir casglu allweddi o 8yb-6yp, bydd angen i'ch archebion calendr adlewyrchu'r amser y byddwch yn codi'r allweddi a'u gollwng. Ni all staff sy'n gweithio yn y swyddfa gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â cheir pwll.
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r ceir pwll cysswllt:
- Am archebu, defnyddwyr newydd a gweinyddu:
Emso@sirgar.gov.uk - Am cynnal a chadw/tanwydd:
envbsufleet@sirgar.gov.uk
Dylid casglu'r ffeil berthnasol gyda'r 'Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr' yr un pryd â chasglu allwedd y Cerbyd Adrannol. Cyn dechrau ar y daith, rhaid i'r gyrrwr gerdded o gwmpas y cerbyd er mwyn ei wirio. Os bydd rhyw nam, rhaid i'r gyrrwr gofnodi hynny yn y llyfr diffygion cerbyd; mae un ar gael ym mhob cerbyd, a rhoi gwybod am y nam i Reoli'r Fflyd, envbsufleet@sirgar.gov.uk Ffôn: 01554 784138 neu estyniad 3738
Pan fydd diffygion yn cael eu nodi yn dilyn yr archwiliad dyddiol ac os effeithir ar ddiogelwch y cerbyd, y teithwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, dylid eu hatgyweirio ar unwaith.
Gellir trefnu bod diffygion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â diogelwch yn cael eu hatgyweirio'r tro nesaf bydd y cerbyd yn y gweithdy.
Rhaid i'r gyrrwr gwblhau'r Daflen Gofnodi, oherwydd defnyddir y wybodaeth hon er mwyn adennill costau am ddefnyddio'r cerbyd.
Cyn dechrau ar y daith, dylid cwblhau Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr yn rhannol. Mae’r meysydd hyn fel a ganlyn:
- Dydd a Dyddiad
- Amseroedd y daith (Cychwyn)
- Darlleniadau'r Sbidomedr (Cyfanswm y Milltiroedd) (Cychwyn) – Ni ddylid tybio mai'r cofnod blaenorol o ran Darlleniadau'r
- Sbidomedr (Cyfanswm Milltiroedd) (Gorffen) yw'r milltiroedd cychwyn ar gyfer eich taith ac ni ddylech chi gofnodi ‘?’. Peidiwch â dibynnu ar gofnod y gyrrwr blaenorol, mae gweithwyr yn cofnodi gwybodaeth anghywir yn aml ar y ffurflenni hyn.
- Darlleniadau'r mesuryddion Tanwydd/Trydan cyn dechrau ar y daith
- Enw(au)'r gyrrwr/gyrwyr
- Llofnod y gyrrwr i ddatgan ei fod wedi cynnal archwiliad o'r cerbyd a llenwi'r Llyfr Diffygion (cyn y daith)
- Manylion y daith (o [os nad Parc Myrddin] – i – drwy)
- Rheswm Byr am y Daith e.e. Cyfarfod, Ymweliad Safle ac ati
Wrth ail-lenwi tanwydd y cerbyd (cerbydau Disel yn unig), rhaid llenwi Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr. Tynnir sylw at y meysydd hyn mewn gwyrdd.
- A wnaethoch chi ail-lenwi’r cerbyd? Do/Naddo
- Lleoliad ail-lenwi tanwydd Depo'r Cyngor/oddi ar y safle
- Milltiroedd ar adeg ail-lenwi tanwydd
Ar ôl dychwelyd y cerbyd, dylid llenwi Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr drwy lenwi gweddill y daflen. Mae'r meysydd hyn wedi cael eu nodi mewn melyn.
- Amseroedd y daith (Gorffen)
- Darlleniadau'r Sbidomedr (Cyfanswm y Milltiroedd) (Gorffen)
- Darlleniadau Mesuryddion Tanwydd/Trydan
Mae gennym ni ganllaw pwrpasol.
Os cewch unrhyw broblemau mecanyddol bydd angen i chi hysbysu'r fflyd ar unwaith - envbsufleet@sirgar.gov.uk , gan gynnwys y plât cofrestru a'r materion. Gofynnwn hefyd i chi gopïo yn y e-bost EMSO@sirgar.gov.uk , bydd hyn yn caniatáu i ni ddiweddaru'r calendrau archebu yn unol â hynny.
Os yw'r mater mecanyddol yn argyfwng, ffoniwch 01554 784138 rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae hyn er mwyn gallu delio â'r mater yn gyflymach. Bydd angen i chi hefyd ebostio EMSO@sirgar.gov.uk i ddiweddaru’r calendrau archebu.
Os gallwch chi weld archeb ar y car yr un diwrnod ag y byddwch chi'n profi'r mater, rhowch wybod i'r person ar y calendr nad yw'r car yn cael ei ddefnyddio mwyach, nes ei fod wedi'i ddatrys.
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r ceir pwll cysswllt:
- Am archebu, defnyddwyr newydd a gweinyddu:
Emso@sirgar.gov.uk - Am cynnal a chadw/tanwydd:
envbsufleet@sirgar.gov.uk
Mae dau gerdyn gwefru gwahanol. Un yw Clenergy a dim ond ym Mharc Myrddin y gellir defnyddio'r rhain. Y cerdyn arall yw SWARCO a gellir ei ddefnyddio ar bob safle CSC arall.
Adrodd i SWARCO yn uniongyrchol neu e-bostiwch Antonia Jones [Rheolwr y Fflyd]
Rydym yn deall hyn a gallwn eich sicrhau na fydd mwy na dau gerdyn. Ein nod yw defnyddio un cerdyn yn unig. Dylai pob cerdyn aros gyda'r cerbyd y maent wedi'i ddyrannu iddo.
Rydym wedi cynnwys arferion gwefru yn y Canllaw Gwefru Ceir Trydan.
Adrodd i Antonia Jones [Rheolwr y Fflyd]
Mae depo Glanaman wedi'i gyfyngu i 7kw oherwydd lleoliad y rheilffordd. Mae pob pwynt arall yn cynnwys opsiwn gwefru cyflym.
Gweler y Canllaw Codi Tâl.
Bydd angen cerdyn adnabod Amledd Radio SWARCO i ddefnyddio'r cyfleusterau gwefru at ddefnydd personol.
Mae'r holl gardiau wedi'u cysylltu â chardiau RFid sy'n cael eu neilltuo i'r cerbyd. Maent yn gweithio yn yr un ffordd â'n cardiau tanwydd.
Does dim byd ar gael ar hyn o bryd.
Mae hyn yn gywir, bydd gan bob car ei brosesau ei hun a rhoddir hyfforddiant llawn yn ystod eich asesiad.
Oes, bydd angen i bob gyrrwr lenwi'r llyfr diffygion cyn pob defnydd.
Mwy ynghylch Teithio a Pharcio