Arwyddion
Diweddarwyd y dudalen: 16/09/2026
Rhaid gosod arwyddion clir lle mae systemau teledu cylch cyfyng ar waith. Mae arwyddion o'r fath yn rhybuddio pobl eu bod yn mynd i mewn i ardal lle mae system teledu cylch cyfyng ar waith neu i'w hatgoffa eu bod yn dal i fod mewn ardal lle mae system teledu cylch cyfyng ar waith. Bydd arwyddion hefyd yn gweithredu fel dull atal ychwanegol. Ni ddylid arddangos arwyddion system teledu cylch cyfyng mewn ardaloedd lle nad oes camerâu teledu cylch cyfyng.
Wrth ddefnyddio camerâu gwisg, rhaid i swyddogion wisgo gwisg briodol y cyngor ac arddangos hysbysiad clir ar eu dillad neu ar y ddyfais i gadarnhau eu bod yn defnyddio camera gwisg. Bydd swyddogion bob amser yn rhoi gwybod bod unigolyn yn cael ei recordio cyn gynted ag y bydd y ddyfais yn cael ei hactifadu.
Rhaid i arwyddion fod o faint priodol gan ddibynnu ar y cyd-destun. Er enghraifft, p'un a ydynt yn cael eu gweld gan gerddwyr neu yrwyr ceir.
Dylai arwyddion fod yn fwy amlwg ac aml mewn ardaloedd lle mae pobl yn llai tebygol o ddisgwyl y byddant yn cael eu monitro gan system teledu cylch cyfyng. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd system ANPR yn cael ei defnyddio sy'n cwmpasu ardal fawr.
Bydd arwyddion corfforaethol ar gael a fydd:
Yn hawdd eu gweld a'u darllen.
Yn cadarnhau bod y system yn cael ei gweithredu gan y Cyngor ac yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y Ganolfan Gyswllt.
Yn cadarnhau a yw'r system yn cael ei recordio neu ei fonitro neu'r ddau.
Yn nodi'r diben ar gyfer rhoi system wyliadwriaeth ar waith.
Lawrlwythwch ein harwyddion cymeradwy yma:
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
Polisi Teledu Cylch Cyfyng Corfforaethol
- 2. Amcanion
- 3. Deddfwriaeth
- 4. Cyfrifoldebau
- 5. Prynu a Defnyddio Camerâu Teledu Cylch Cyfyng
- 6. Monitro
- 7. Gwiriadau a Sicrwydd Teledu Cylch Cyfyng
- 8. Gwylio recordiadau
- 9. Arwyddion
- 10. Storio a Chadw
- 11. Technolegau Gwyliadwriaeth Uwch
- 12. Archwiliadau
- 13. Iechyd a Diogelwch
- 14. Mesur cydymffurfiaeth
- 15. Gwarchodwr
- 16. Cwynion
- 17. Hanes y Fersiwn
Mwy ynghylch Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
