Polisi a Gweithdrefn Galluogrwydd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
11. Apeliadau
Mae gan weithiwr hawl i apelio yn erbyn dulliau o weithredu a roddwyd ar waith o dan gamau ffurfiol y weithdrefn hon, ar y sail ganlynol:
Os yw'n meddwl bod y casgliad a/neu'r gosb yn annheg neu'n afresymol dan yr amgylchiadau
Os yw o'r farn bod y gefnogaeth a gynigir yn annigonol neu'n amhriodol
Os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg a allai fod wedi effeithio ar ganlyniad y cyfarfod rheoli perfformiad
Os na ddilynwyd y gweithdrefnau.
Yn achos Camau 1 a 2, dylid cyflwyno'r apêl yn ysgrifenedig (lle bynnag y bo modd) cyn pen 14 diwrnod calendr, i Bennaeth y Gwasanaeth a fydd yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i wrando'r apêl. Dylai'r llythyr amlinellu'r rhesymau manwl dros yr apêl. Gall Pennaeth y Gwasanaeth enwebu cynrychiolydd addas i wrando'r apêl.
Yn achos Cam 3, dylid cyflwyno'r apêl yn ysgrifenedig (lle bynnag y bo modd) i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Pobl, Digidol a Pholisi) a fydd yn trefnu bod yr apêl yn cael ei chlywed gan y Panel Apêl (Swyddogion).
Cydnabyddir apeliadau cyn pen 14 diwrnod calendr.
Mae'r Gwrandawiad Apêl a'r penderfyniad yn derfynol ac nid oes hawl i apelio eto o fewn y Cyngor.
