Polisi a Gweithdrefn Galluogrwydd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
7. Methiant i fynychu cyfarfod
Gall fod achlysuron pan fo gweithwyr yn analluog neu'n amharod i fynychu cyfarfod fel rhan o'r ymchwiliad i alluogrwydd neu'r broses ffurfiol, e.e. salwch. Cyn symud ymlaen gyda'r cyfarfod, dylai'r rheolwr llinell ystyried y canlynol:
Barn feddygol ynghylch a yw'r gweithiwr yn ddigon iach i fynychu'r cyfarfod.
Difrifoldeb y mater galluogrwydd sydd dan sylw.
Cofnod perfformiad y gweithiwr (gan gynnwys datblygiad cyfredol a chynlluniau cefnogi), cofnod gwaith cyffredinol, profiad gwaith, swydd a hyd y cyfnod o wasanaeth.
Y rheolau ynghylch ymddygiad a phresenoldeb a amlinellwyd yn y Cyflwyniad.
Lle mae gweithiwr yn dal heb fod ar gael i fynychu cyfarfod, gall yr Awdurdod ddod i'r casgliad y gwneir penderfyniad ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Hysbysir y gweithiwr lle digwydd hyn.
