Polisi a Gweithdrefn Galluogrwydd - Mehefin 2026
Yn yr adran hon
4. Rolau a Chyfrifoldebau
Mae cyfrifoldeb ar bob rheolwr i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu cefnogi, eu hannog, eu goruchwylio'n briodol, a'u hyfforddi i wneud eu gwaith. Mae sianeli cyfathrebu agored ac arfarnu perfformiad effeithiol, rheolaidd yn allweddol i reoli staff yn effeithiol, ac yn sicrhau bod gweithwyr a rheolwyr yn cael cyfleoedd i godi pryderon a/neu broblemau yn gynnar. Nod y polisi hwn a'r weithdrefn hon yw darparu fframwaith ar gyfer ymdrin ag achosion lle nad yw perfformiad yn gwella neu lle mae'n ddigon difrifol i fod yn destun gweithredu ffurfiol.
4.1 Adnoddau Dynol (AD)
Er mwyn sicrhau cysondeb, bydd y Tîm Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor ym mhob cam o’r weithdrefn, ac yn monitro cymhwysiad y Polisi ac yn adrodd arno. Y Tîm Adnoddau Dynol fydd yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw ar ffeiliau personol am y cyfnod priodol, gan ddilyn egwyddorion y ddeddfwriaeth Diogelu Data
4.2 Rheolwyr Llinell
Cyfrifoldeb am berfformiad effeithiol y rhai y maent yn eu goruchwylio. O dan y polisi hwn a'r weithdrefn hon, rheolwyr llinell sy'n gyfrifol am y canlynol:
trefnu cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer monitro perfformiad, a hysbysu gweithwyr ynghylch eu hawliau o dan y Polisi Galluogrwydd
cadw cofnodion perfformiad manwl a sicrhau eu bod ar gael i'r gweithwyr mewn unrhyw gyfarfodydd a gynullir
cwrdd a thrafod materion perfformiad gyda gweithwyr, a chytuno ar atebion posibl
ysgrifennu at y gweithiwr i gadarnhau'r canlyniad a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn sgil unrhyw gyfarfod perfformiad/gwelliant
monitro perfformiad a phennu dyddiadau targed realistig.
4.3 Penaethiaid Gwasanaeth
Cyfrifoldeb am sicrhau bod y polisi hwn/y weithdrefn hon yn cael eu cymhwyso'n gyson, ac am wrando apeliadau yng ngham 1 a cham 2.
4.4 Cyfarwyddwyr
Cyfrifoldeb am sicrhau bod rheolwyr yn cael eu hyfforddi'n briodol i ddelio gyda materion perfformiad ac am reoli a/neu oruchwylio cam 3 o'r weithdrefn.
CYN CYCHWYN AR Y WEITHDREFN HON, DYLECH FOD WEDI'CH BODLONI BOD EICH GWEITHIWR:
Wedi cwblhau cyfnod prawf
Wedi derbyn cyfnod sefydlu priodol ar gyfer y swydd (p'un a ydynt yn newydd i'r Awdurdod neu'n newydd i'r swydd)
Yn meddu ar gymwysterau a sgiliau wedi'u diweddaru i wneud y gwaith, neu wedi derbyn hyfforddiant priodol i sicrhau bod eu sgiliau'n cael eu diweddaru'n barhaus.
Yn meddu ar lefel briodol o adnoddau (e.e. cyfarpar TG) i'w galluogi i wneud y gwaith.
Wedi derbyn arfarniadau rheolaidd, a bod unrhyw gefnogaeth y cytunwyd arni wedi'i darparu.
