Cerbydau Pwll Trydan

Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2024

Rydym wedi derbyn amrywiaeth o gwestiynau gan staff ynglŷn â defnyddio cerbydau trydan. Hoffem rannu'r rhain fel Cwestiynau Cyffredin i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol.

Mae'n rhaid i chi fod â'r drwydded yrru berthnasol.
Cyn defnyddio unrhyw geir trydan, rhaid i'r holl staff gwblhau sesiwn ymgyfarwyddo i yrwyr. Gallwch archebu'r rhain drwy e-bostio:


Ryan Robinson: RMRobinson@sirgar.gov.uk 

Iwan Richards: IJRichards@sirgar.gov.uk 

Sut i agor a gweld Calendrau

Gellir gweld argaeledd y ceir drwy wirio Microsoft Outlook ac edrych ar y dyddiaduron o dan 'Calendar’.

Mae sawl ffordd i agor y calendrau, un o'r rhain yw:

1. Agor Microsoft Outlook a chlicio ar yr 2il opsiwn 'Calendr' ar waelod ochr chwith Microsoft Outlook.

2. O dan y pennawd Hafan, cliciwch ar 'Ychwanegu at y calendr...' a dewiswch yr opsiwn cyntaf, 'O'r llyfr cyfeiriadau…’

3. Bydd opsiwn yn ymddangos yng nghanol eich sgrin yn nodi 'Dewiswch enw: Pob defnyddiwr'. Yn y maes Chwilio, teipiwch 'Pool Vehicle Parc Myrddin' a dylai'r calendrau ar gyfer pob cerbyd ymddangos.

4. Gallwch ddewis bob un yn unigol neu gallwch ddewis y cyfan.

5. Bydd rhain bellach yn cael eu harddangos yn barhaus fel opsiwn i'w gweld ar gyfer y dyfodol, ar ochr chwith y sgrin', dan 'Calendrau a Rennir'.


Sut i Archebu

1. Agorwch Outlook, dewiswch yr eicon Calendr ar waelod y sgrin ar yr ochr chwith.

2. Cliciwch ar y botwm 'Cyfarfod newydd' yn yr adran 'Hafan'. Mae ffenestr arall wag yn agor - Cyfarfod (gweler y dudalen nesaf).

3. Yn y maes Teitl, rhowch eich enw ac yn y maes Lleoliad, rhowch eich cyrchfan(au).

4. Dewiswch y dyddiad a'r amseroedd gofynnol.

5. Yn y blwch 'Required', teipiwch 'Pool Vehicle Parc Myrddin' a dewiswch y cerbyd yr hoffech ei archebu. Os yw calendr y cerbyd eisoes wedi cael ei glicio, bydd hyn yn ymddangos yn awtomatig.

6. Pan fydd pob maes yn llawn, cliciwch ar Anfon.


Proses Archebu a Defnyddio

  • Gwirio argaeledd ar-lein
  • Archebu'r car am yr amser angenrheidiol
  • Casglu'r allweddi, y llyfr cofnodi milltiroedd, a'r llyfr diffygion o'r Swyddfa Cymorth Busnes, Llawr Gwaelod Bloc 1, Parc Myrddin.
  • Symud y car o'r pwynt gwefru trydan
  • Cwblhau'r llyfr diffygion gwyrdd cyn eich taith
  • Cwblhau'r llyfr cofnodi milltiroedd cyn eich taith
  • Llenwi'r car â thanwydd gan ddefnyddio'r depo (os ydych yn defnyddio car disel)
  • Dychwelwch y car i Barc Myrddin ar ddiwedd eich taith a defnyddiwch gilfachau parcio'r pwll (dim ond un cerbyd trydan sydd wedi'i leoli yn Nhrostre, rhaid dychwelyd y cerbyd hwn i Drostre. Ni ellir dychwelyd unrhyw gerbyd arall i Ddepo Trostre).
  • Plygio'r car i bwynt gwefru trydan
  • Cwblhau'r llyfr cofnodi milltiroedd/llyfr diffygion ar ôl eich taith
  • Dychwelyd yr allweddi, llyfr cofnodi milltiroedd/llyfr diffygion i'r swyddfa gyffredinol
  • E-bostiwch envbsufleet@sirgar.gov.uk i roi gwybod am unrhyw broblemau ar ôl defnyddio'r car

Ar gyfer ein cerbydau sydd wedi'u lleoli yn Nhrostre bydd y cerbydau ym mhrif Faes Parcio Trostre a chedwir allweddi yn Nerbynfa'r Fflyd sydd â staff dyddiol. Gellir casglu allweddi o 8yb-4yp, bydd angen i'ch archebion calendr adlewyrchu'r amser y byddwch yn codi'r allweddi a'u gollwng. Ni all staff y fflyd gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â cheir pwll.

Ar gyfer ein cerbydau sydd wedi’u lleoli ym Mharc Myrddin bydd y cerbydau’n cael eu parcio yn y Maes Parcio uchaf y tu allan i Floc 1 a chedwir allweddi yn y swyddfa llawr gwaelod (drws nesaf i swyddfa gwasanaethau parcio) yn y cwpwrdd allweddi y tu ôl i’r drws. Gellir casglu allweddi o 8yb-6yp, bydd angen i'ch archebion calendr adlewyrchu'r amser y byddwch yn codi'r allweddi a'u gollwng. Ni all staff sy'n gweithio yn y swyddfa gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â cheir pwll.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r ceir pwll cysswllt: 

Dylid casglu'r ffeil berthnasol gyda'r 'Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr' yr un pryd â chasglu allwedd y Cerbyd Adrannol. Cyn dechrau ar y daith, rhaid i'r gyrrwr gerdded o gwmpas y cerbyd er mwyn ei wirio. Os bydd rhyw nam, rhaid i'r gyrrwr gofnodi hynny yn y llyfr diffygion cerbyd; mae un ar gael ym mhob cerbyd, a rhoi gwybod am y nam i Reoli'r Fflyd, envbsufleet@sirgar.gov.uk Ffôn: 01554 784138 neu estyniad 3738

Pan fydd diffygion yn cael eu nodi yn dilyn yr archwiliad dyddiol ac os effeithir ar ddiogelwch y cerbyd, y teithwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, dylid eu hatgyweirio ar unwaith.

Gellir trefnu bod diffygion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â diogelwch yn cael eu hatgyweirio'r tro nesaf bydd y cerbyd yn y gweithdy.

Rhaid i'r gyrrwr gwblhau'r Daflen Gofnodi, oherwydd defnyddir y wybodaeth hon er mwyn adennill costau am ddefnyddio'r cerbyd.

Cyn dechrau ar y daith, dylid cwblhau Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr yn rhannol. Mae’r meysydd hyn fel a ganlyn:

  • Dydd a Dyddiad
  • Amseroedd y daith (Cychwyn)
  • Darlleniadau'r Sbidomedr (Cyfanswm y Milltiroedd) (Cychwyn) – Ni ddylid tybio mai'r cofnod blaenorol o ran Darlleniadau'r
  • Sbidomedr (Cyfanswm Milltiroedd) (Gorffen) yw'r milltiroedd cychwyn ar gyfer eich taith ac ni ddylech chi gofnodi ‘?’. Peidiwch â dibynnu ar gofnod y gyrrwr blaenorol, mae gweithwyr yn cofnodi gwybodaeth anghywir yn aml ar y ffurflenni hyn.
  • Darlleniadau'r mesuryddion Tanwydd/Trydan cyn dechrau ar y daith
  • Enw(au)'r gyrrwr/gyrwyr
  • Llofnod y gyrrwr i ddatgan ei fod wedi cynnal archwiliad o'r cerbyd a llenwi'r Llyfr Diffygion (cyn y daith)
  • Manylion y daith (o [os nad Parc Myrddin] – i – drwy)
  • Rheswm Byr am y Daith e.e. Cyfarfod, Ymweliad Safle ac ati

Wrth ail-lenwi tanwydd y cerbyd (cerbydau Disel yn unig), rhaid llenwi Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr. Tynnir sylw at y meysydd hyn mewn gwyrdd.

  • A wnaethoch chi ail-lenwi’r cerbyd? Do/Naddo
  • Lleoliad ail-lenwi tanwydd Depo'r Cyngor/oddi ar y safle
  • Milltiroedd ar adeg ail-lenwi tanwydd

Ar ôl dychwelyd y cerbyd, dylid llenwi Taflen Cofnodi Taith y Gyrrwr drwy lenwi gweddill y daflen. Mae'r meysydd hyn wedi cael eu nodi mewn melyn.

  • Amseroedd y daith (Gorffen)
  • Darlleniadau'r Sbidomedr (Cyfanswm y Milltiroedd) (Gorffen)
  • Darlleniadau Mesuryddion Tanwydd/Trydan

 

 

 

Os cewch unrhyw broblemau mecanyddol bydd angen i chi hysbysu'r fflyd ar unwaith - envbsufleet@sirgar.gov.uk , gan gynnwys y plât cofrestru a'r materion. Gofynnwn hefyd i chi gopïo yn y e-bost EMSO@sirgar.gov.uk , bydd hyn yn caniatáu i ni ddiweddaru'r calendrau archebu yn unol â hynny.

Os yw'r mater mecanyddol yn argyfwng, ffoniwch 01554 784138 rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae hyn er mwyn gallu delio â'r mater yn gyflymach. Bydd angen i chi hefyd ebostio EMSO@sirgar.gov.uk i ddiweddaru’r calendrau archebu.

Os gallwch chi weld archeb ar y car yr un diwrnod ag y byddwch chi'n profi'r mater, rhowch wybod i'r person ar y calendr nad yw'r car yn cael ei ddefnyddio mwyach, nes ei fod wedi'i ddatrys.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r ceir pwll cysswllt: 

Mae dau gerdyn gwefru gwahanol. Un yw Clenergy a dim ond ym Mharc Myrddin y gellir defnyddio'r rhain. Y cerdyn arall yw SWARCO a gellir ei ddefnyddio ar bob safle CSC arall.

Rydym yn deall hyn a gallwn eich sicrhau na fydd mwy na dau gerdyn. Ein nod yw defnyddio un cerdyn yn unig. Dylai pob cerdyn aros gyda'r cerbyd y maent wedi'i ddyrannu iddo.

Mae depo Glanaman wedi'i gyfyngu i 7kw oherwydd lleoliad y rheilffordd. Mae pob pwynt arall yn cynnwys opsiwn gwefru cyflym.

Bydd angen cerdyn adnabod Amledd Radio SWARCO i ddefnyddio'r cyfleusterau gwefru at ddefnydd personol.

Mae'r holl gardiau wedi'u cysylltu â chardiau RFid sy'n cael eu neilltuo i'r cerbyd. Maent yn gweithio yn yr un ffordd â'n cardiau tanwydd.

Does dim byd ar gael ar hyn o bryd.

Mae hyn yn gywir, bydd gan bob car ei brosesau ei hun a rhoddir hyfforddiant llawn yn ystod eich asesiad. 

Llwythwch mwy