Bwrdd Masnacheiddio

Diweddarwyd y dudalen: 07/11/2025

Corff strategol a grëwyd i hyrwyddo ein huchelgeisiau masnachol a sicrhau bod mentrau arloesol, sy'n cynhyrchu incwm ac yn arbed costau yn cael eu hymgorffori ar draws y sefydliad.


Beth yw'r Bwrdd Masnacheiddio?
Mae'r Bwrdd Masnacheiddio yn darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar gyfer gweithgareddau masnachol y Cyngor. Mae'n sicrhau bod pob prosiect masnachol yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol a'u bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn gyfrifol, gan gael effaith fesuradwy.
Yn cyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn, mae'r Bwrdd yn adolygu cynnydd, yn gwerthuso cyfleoedd newydd, ac yn cefnogi gwasanaethau i ddatblygu achosion busnes cadarn. 

Pam mae ei angen arnom?
Crëwyd y Bwrdd mewn ymateb i bwysau ariannol cynyddol a'r angen i archwilio ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau. Ei bwrpas yw:
o    Nodi a gwerthuso cyfleoedd masnachol
o    Hyrwyddo diwylliant o arloesi a menter
o    Cefnogi gwasanaethau i ddatblygu mentrau buddsoddi i arbed
o    Sicrhau bod prosiectau masnachol yn hyfyw, yn effeithiol ac yn cael eu llywodraethu'n dda
o    Monitro perfformiad a rhannu dysgu ar draws y Cyngor


Pwy sy’n rhan o'r bwrdd?

Chris Moore Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol
Paul Thomas Prif Weithredwr Cynorthwyol – Rheoli Pobl 
Ian Jones Pennaeth Hamdden
Caio Higginson heolwr Marchnata a’r Cyfryngau
Daniel John Pennaeth Seilwaith Amgylcheddol
Simon Davies Pennaeth Datblygu Economaidd ac Eiddo
Alex Williams Pennaeth Prosiectau Cyfalaf sy'n Gysylltiedig ag Iechyd 
Steve Murphy Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil 
Helen Pugh Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol
Randal Hemingway Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol 
Jon Owen Rheolwr Trawsnewid 
Mark Howard Uwch-swyddog Trawsnewid
Daniel Thomas Swyddog Trawsnewid


Sut allwch chi gymryd rhan? 
Gall staff ymgysylltu â gwaith y bwrdd drwy wneud y canlynol:
•    Cyflwyno syniadau neu gynigion drwy'r grŵp Arloesi a Chreadigrwydd trwy'r ffurflen ganlynol
•    Gofyn am gymorth neu gyngor ar gyfer mentrau sy'n seiliedig ar wasanaethau trwy'r Ffurflen Cysylltu'r â Grŵp Arloesedd a Chreadigrwydd
•    Cymryd rhan mewn hyfforddiant cysylltiedig.
•    Dod yn Hyrwyddwr Masnachol i hyrwyddo meddwl masnachol yn eich maes a fydd yn cael ei wneud drwy'r grŵp Arloesedd a Chreadigrwydd