Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol

Diweddarwyd y dudalen: 13/05/2024

 Ainsley Williams – Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith

Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu prosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon, cynnig gwell profiad i gwsmeriaid a galluogi trafodion i gael eu cwblhau lle bynnag y bo modd.

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau yn Strategaeth Trawsnewid Digidol y Cyngor ar gyfer y sefydliad.
  • Arwain rhaglen arwyddocaol o newid a thrawsnewid fydd yn ceisio rhesymoli a/neu awtomeiddio prosesau trafodiadol all arwain at welliannau yng nghost ac ansawdd gwasanaethau.
  • Ystyried cynigion buddsoddi ynghylch datrysiadau technoleg ddigidol a gwneud argymhellion i’r TRhC ar gyfer dyrannu gwariant refeniw/cyfalaf.
  • Helpu’r awdurdod i symud tuag at yr amcan o fod yn sefydliad di-bapur
  • Lleihau faint o ymholiadau/ceisiadau a dderbynnir gan y Ganolfan Gyswllt trwy annog cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein a cheisio lleihau cyfanswm yr ymholiadau y gellid eu hystyried yn rhai y methwyd â’u datrys.
  • Cynyddu nifer y ceisiadau gaiff eu datrys yn y pwynt cyswllt cyntaf yn y Ganolfan Gyswllt trwy wella mynediad at wybodaeth a systemau
  • Ceisio cael mwy o bobl i ddefnyddio cyfleusterau hunanwasanaeth trwy ddatblygu gwefan y Cyngor a gofalu fod hyn yn darparu ar gyfer awtomeiddio’r broses ‘o’r dechrau i’r diwedd’.
  • Gwella profiad y cwsmer trwy geisio rhesymoli a chanoli pwyntiau mynediad y gwe borth at wasanaethau trafodiadol.
  • Hyrwyddo’r defnydd o weithgareddau ymgysylltu â defnyddwyr fel rhan o’r gwaith o adolygu a datblygu systemau TG
  • Codi lefelau hygyrchedd a sgiliau digidol ymhlith defnyddwyr gwasanaethau
  • Adnabod gwasanaethau eraill a ddarperir ar hyn o bryd gan y Ganolfan Gyswllt lle y gellid mabwysiadu model ar ffurf Hwb
  • Dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi i arbed er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno datrysiadau digidol
Meysydd Prosiect Beth rydym yn ei wneud
Awtomeiddio Prosesau a Thechnolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI)
  • Datblygu Datganiad Sefyllfa ynghylch Deallusrwydd Artiffisial i amlinellu dull y cyngor o ddefnyddio a datblygu Deallusrwydd Artiffisial.
  • Awtomeiddio Prosesau ym maes Adnoddau Dynol a phrydau ysgol am ddim
  • Archwilio'r defnydd o Chat Bot a CoPilot i gefnogi effeithlonrwydd
Gweithio Symudol ac Ystwyth
  • Rydym wedi cyflwyno system newydd ar gyfer archebu ystafelloedd i gefnogi a monitro'r defnydd o ystafelloedd cyfarfod.
  • Rydym yn adolygu anghenion teleffoni'r Awdurdod.
Gwasanaethau Cwsmeriaid Digidol
  • Rhan o Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol i adolygu rhyngweithio â chwsmeriaid
  • Wedi lansio'r 'porth Aelodau Etholedig' i aelodau allu cyflwyno cwestiynau i uwch-reolwyr.
Cysylltedd Digidol
  • Wedi sicrhau darparu 15 mast ffonau symudol newydd mewn ardaloedd gwledig ledled Sir Gaerfyrddin.

 

Datblygu Systemau Ariannol
  • Symud system ariannol Agresso i'r cwmwl. Bydd hyn yn golygu mynediad gwell a chyson i bob defnyddiwr.
  • Datblygu integreiddiadau â systemau newydd fel TOTAL Connect, Alloy a SystemsLink
Gweithio'n ddi-bapur
  • Gweithio gyda gwasanaethau i newid o brosesau papur i ffyrdd electronig o weithio.
  • Gweithio gyda gwasanaethau i gyflwyno
    • E-anfonebu.
    • Post Hybrid: Y gallu i anfon post ffisegol yn uniongyrchol o liniadur swyddog.
    • E-lofnodion
  • Awtomeiddio taflenni amser: Dileu'r angen am brosesu taflenni amser papur.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.