Cynllunio a Gwella Gwasanaethau

Diweddarwyd y dudalen: 08/05/2024

 Gareth Jones – Prif Swyddog Digidol

Darparu ar gyfer ymagwedd fwy cynaliadwy a chreadigol at yr adolygiad, ailfodelu a gwella gwasanaethau’r Cyngor.

  • Datblygu ffordd strategol, seiliedig ar dystiolaeth, a chynhwysol o benderfynu ar adolygiadau a phrosiectau trawsnewid gyda’r bwriad o sicrhau bod y rhaglen adolygiadau yn canolbwyntio ar gefnogi prif amcanion a blaenoriaethau’r Cyngor.
  • Datblygu rhaglen dreigl 3-blynedd o adolygiadau.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu dull blaengar a chynhwysol o gynnal adolygiadau, sy’n galluogi’r holl randdeiliaid perthnasol i gyfrannu’n effeithiol at y broses.
  • Monitro’r rhaglen adolygiadau i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau’n brydlon a’u bod yn cyflawni’r deilliannau angenrheidiol.
  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn yn eu lle ar ddechrau pob adolygiad er mwyn sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer prosiectau a bod ganddynt y capasiti i gynnal yr adolygiad.
  • Goruchwylio’r gwaith o weithredu cynlluniau cyflawni cadarn a gofalu fod y cynlluniau hynny’n gwneud yn fawr o’r cyfleoedd i greu newid a gwelliant trawsnewidiol.
  • Goruchwylio camau cloi, cymeradwyo ac ôl werthuso adolygiadau ac adnabod cyfleoedd i rannu dysgu ac arfer da gyda gweddill y sefydliad.
  • Gwneud defnydd effeithiol o ddata perfformiad a gwybodaeth arall i sicrhau bod deilliannau adolygiadau yn gynaliadwy wedi iddynt gael eu cloi a’u cymeradwyo.
  • Datblygu fframwaith gwerthusiad cwsmer mewnol i alluogi’r Tîm Trawsnewid i adolygu a gwella’n barhaus ein harferion prosiect ein hunain.
  • Datblygu a gweithredu model i gefnogi dull ‘hunangymorth’ o adolygu prosesau gwasanaethau.

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud
Monitro
  • Mae'r ffrwd waith yn parhau i fonitro cynnydd wrth weithredu canlyniadau adolygiadau trawsnewid blaenorol a chynorthwyo'r gwasanaethau hynny i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i newid sy'n weddill.
  • Ar hyn o bryd mae'r ffrwd waith yn gweithio yn y maes hwn gyda:
  • Dyledwyr, Rheoli Risg, Dylunio Eiddo, Pensiynau, Teithio Staff
Uned Cynnal a Chadw Trafnidiaeth
  • Cwblhawyd adolygiad o’r Uned Cynnal a Chadw Trafnidiaeth yn hydref 2023.
  • Mae cynllun gweithredu yn cael ei lunio i roi argymhellion yr adolygiad ar waith.
Ymholiadau gan Aelodau
  • Cynhaliwyd adolygiad yng ngwanwyn 2023 a chymeradwywyd 8 argymhelliad.
  • Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus o system newydd ar gyfer Ymholiadau gan Aelodau, mae'r system wedi'i chyflwyno i'r holl aelodau.
  • Mae'r adran yn parhau i weithio gyda TG i ddatblygu'r system.
Storfa Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin
  • Cwblhawyd adolygiad yn 2023 ac mae adroddiad wedi'i gyflwyno i'r adran ei ystyried.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.