Grŵp Cymorth Arloesedd a Chreadigrwydd

Diweddarwyd y dudalen: 07/11/2025

Ffrwd waith flaengar sy'n hyrwyddo syniadau ffres, yn datgloi cyfleoedd masnachol, ac yn grymuso staff ar draws pob adran i lunio taith drawsnewid y Cyngor.

Mae'r ffrwd waith hon yn rhan allweddol o'n Rhaglen Trawsnewid ehangach, gan gefnogi ein huchelgais i adeiladu dyfodol cynaliadwy yn ariannol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau gwerth am arian o ansawdd uchel. Drwy greu lle ar gyfer arloesedd a chreadigrwydd, mae'r ffrwd waith yn gwahodd pawb i gyfrannu at ddiwylliant o arloesi a gwelliant parhaus.

Pam Arloesedd a Chreadigrwydd?

Mae'r ffrwd waith yn rhan allweddol o Raglen Trawsnewid ehangach y Cyngor, sydd â'r nod o adeiladu dyfodol cynaliadwy yn ariannol wrth ddarparu gwasanaethau gwerth am arian o ansawdd uchel. Drwy sefydlu'r Bwrdd Masnacheiddio, mae'r Cyngor yn mabwysiadu dull mwy strategol o gynhyrchu incwm a gwella gwasanaethau. Mae'r Ffrwd Waith Arloesedd a Chreadigrwydd yn cyd-fynd â hyn drwy greu lle ar gyfer syniadau, arbrofi a chydweithio.

Llywodraethu a Chydweddiad Strategol

Mae'r ffrwd waith yn gweithredu o dan y Bwrdd Masnacheiddio, ac mae ganddi gysylltiadau â'r Bwrdd Trawsnewid, a ffrydiau gwaith eraill. Ei brif bwrpas yw nodi a chymeradwyo prosiectau arloesol gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu syniadau a meddylfryd masnachol.

Pam mae angen i ni glywed gennych chi

Mae'r Ffrwd Waith yma i sbarduno meddwl newydd, cefnogi syniadau beiddgar, a helpu i droi cysyniadau creadigol yn effaith yn y byd go iawn. Ond i wneud hynny, mae angen eich llais arnom ni.

P'un a ydych chi wedi sylwi ar ffordd ddoethach o weithio, os oes gennych chi syniad a allai gynhyrchu incwm neu arbed costau, neu os ydych chi eisiau gwella sut rydyn ni'n darparu gwasanaethau - mae eich mewnwelediad yn bwysig. Rydyn ni'n adeiladu diwylliant mwy masnachol, creadigol a blaengar ar draws y sefydliad, ac mae eich cyfraniad yn allweddol i wneud i hynny ddigwydd.

Rydyn ni'n croesawu syniadau o bob math. Yn arbennig, rydyn ni'n chwilio am syniadau sydd â'r canlynol:

  • Potensial masnachol – a all gynhyrchu incwm neu leihau costau?
  • Arloesedd – a yw'n rhywbeth newydd neu'n newid creadigol i rywbeth sy'n bodoli?
  • Effaith – a fydd o fudd i wasanaethau, cymunedau, neu ein henw da?
  • Dichonoldeb a'r gallu i'w gyflawni ar raddfa – a allai gael ei dreialu, ac a allai dyfu?

Sut i gysylltu

I rannu eich syniadau:

Chris Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethu Cofforeathol

Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.

  • Annog proses o ddatblygu diwylliant ac ymagwedd fwy masnachol ar draws y sefydliad er mwyn cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir gan y Cyngor.
  • Sicrhau bod gan y Cyngor sgiliau a galluoedd digonol i gefnogi’r ymagwedd hon.
  • Sicrhau bod ffïoedd a thaliadau gwasanaethau yn adlewyrchu costau darparu’r gwasanaeth hwnnw oni bai fod achos busnes yn datgan fel arall
  • Adnabod y potensial i gynhyrchu mwy o incwm trwy gael mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau
  • Cynnig eglurder o ran y defnydd o ostyngiadau a chymorthdaliadau.
  • Adolygu polisïau casglu incwm y Cyngor i sicrhau y caiff incwm ei gasglu yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Adolygu cyfleoedd i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd.
  • Adnabod mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm trwy werthu gwasanaethau’r Cyngor i gyrff eraill yn y sectorau cyhoeddus/preifat tra’n sicrhau ei fod yn
  • cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol perthnasol.
  • Cryfhau prosesau adennill dyledion ymhellach a sicrhau bod capasiti digonol i adennill y lefelau uchaf posib o ddyledion.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.