Gweithlu
Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2023
Paul Thomas – Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad)
Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Weithlu a chyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu i alluogi’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern ac ymatebol ac yn ‘Gyflogwr o Ddewis’
- Datblygu a chryfhau ymhellach fframwaith rheoli gweithlu strategol yr Awdurdod i gefnogi awydd y Cyngor i ddod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
- Datblygu ymhellach drefniadau Cynllunio’r Gweithlu y Cyngor er mwyn creu’r capasiti a’r cydnerthedd i gyflawni ei amcanion strategol a rhagweld a chwrdd ag anghenion i’r dyfodol.
- Gofalu y gall y Cyngor wneud defnydd effeithiol o ddata i gryfhau perfformiad a rheolaeth strategol ei weithlu.
- Gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg i helpu i foderneiddio prosesau a gweithdrefnau gweithlu allweddol.
- Cryfhau trefniadau’r Cyngor ar gyfer recriwtio, cadw a hyblygrwydd ei weithlu
- Sicrhau bod gan staff y Cyngor y sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r agenda moderneiddio a thrawsnewid yn effeithiol fel y gall y Cyngor gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach.
- Parhau i geisio gwella iechyd a llesiant ein gweithlu.
Meysydd Prosiect |
Beth rydym yn ei wneud |
Strategaeth Gweithlu |
|
Fframwaith Data am y Gweithlu |
|
Cynllunio'r Gweithlu |
|
Prosesau recriwtio |
|
Lleihau Costau Asiantaeth |
|
System Rheoli Dysgu |
|
Ymgysylltu mwy â'r staff |
|
Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo. Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.
Trawsnewid
Newyddion diweddaraf
- Llofnodion Electronig
- Post Hybrid
- Ail-ddylunio'r weithfan, Tŷ Elwyn.
- Teithio Staff
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Trawsnewid Ysgolion
- Ynni- Sut y Gallwch chi wneud gwahaniaeth?
- System Rheoli Dysgu Newydd
- Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad
- Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau Newydd Cymeradwywyd
- LLwyddiannau gyda Post Hybrid
- Tîm Gofal Cartref yn trawsnewid prosesau busnes i wella effeithlonrwydd
Mwy ynghylch Trawsnewid