Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau Newydd Cymeradwywyd

Diweddarwyd y dudalen: 08/05/2024

Mae'r Bwrdd Trawsnewid wedi cymeradwyo'r Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau canlynol i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd a nodwyd ar gyfer gwelliant a newid Trawsnewidiol a bod adrannau'n cael eu cefnogi i ddatblygu eu prosiectau ochr yn ochr â'u gwaith parhaus hanfodol

1. Nodi'r Rhaglen Adolygu - Defnyddio data a gwybodaeth i nodi blaenoriaethau e.e., Adroddiadau Monitro Perfformiad Corfforaethol a thrafodaeth y Tîm Rheoli Corfforaetholnsuring 
-Ceisiadau gan y Bwrdd Trawsnewid / y Tîm Rheoli Corfforaethol / y Cabinetign 
2. Cwmpasu'r Adolygiad - Sicrhau ein bod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni/y canlyniadaun
-Cymeradwyaeth gan y Cyfarwyddwyr / Penaethiaid Gwasanaeth / Ffrwd Waith y Gwasanaeth
3. Cynnal Adolygiad - Gwasanaeth i greu capasiti i sicrhau y gellir cynnal adolygiadau mewn modd amserol
-Cynnal adolygiadau yn unol â methodoleg gyson sydd wedi'i dylunio a'i haddasu i ddiwallu anghenion penodol Sir Gaerfyrddin ac sy'n cael ei thanategu gan Werthoedd Craidd y Cyngor
- Cyflwyno canlyniadau i Ffrwd Waith Gwella Gwasanaeth
4. Datblygu a Chyflawni Cynllun Gwella Gwasanaeth - Datblygu cynlluniau cyflawni sy'n nodi sut, pryd a chan bwy y bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad
- Penaethiaid Gwasanaeth i roi arweiniad ac ymrwymiad i'r broses weithredu
- Datblygu mesurau i werthuso canlyniadau
- Integreiddio camau gweithredu/mesurau i broses cynllunio busnes y gwasanaeth
5. Cymeradwyaeth gan y Rhaglen Drawsnewid - Tystiolaeth o newid a gwelliant sylweddol
- Tystiolaeth o'r gallu i greu newid hirdymor cynaliadwy
- Llunio mesurau allweddol i'w hadrodd i fframwaith rheoli perfformiad corfforaethol
6. Monitro perfformiad yn barhaus - Adroddiadau Monitro Perfformiad Corfforaethol i'r Tîm Rheoli Corfforaethol
- Monitro drwy'r uned Data Corfforaethol
7. Ymyrraeth gorfforaethol bellach (os oes angen)

- Angen i'r Tîm Trawsnewid gynnal adolygiad pellach/darparu cymorth
- Gofyn i'r Tîm Ymyriadau reoli’r gwasanaeth dros dro