Llwyddiannau Prosiect Peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu
Diweddarwyd y dudalen: 28/04/2025
Cafodd prosiect peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu ei lansio ym mis Mai 2024 yn ardal Llanelli, sy'n cynnwys pedwar Cartref Gofal Preswyl ac un Cartref Seibiant anableddau dysgu. Yn hanesyddol, roedd pob sefydliad yn rheoli ei gronfa fach ei hun o staff achlysurol a oedd yn gweithio bron yn gyfan gwbl mewn un cartref gofal ac yn defnyddio gweithwyr asiantaeth i ychwanegu at hyn.
Mae prosiect peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu wedi canoli'r timau hyn ac wedi ceisio darparu ateb rhanbarthol. Ar ddechrau'r prosiect roedd gan Dîm Adnoddau'r Gweithlu 12 o staff gweithredol ac roedd llai na 50% ohonynt yn gweithio mewn mwy nag un sefydliad. Ar ôl 7 mis roedd hyn wedi cynyddu i 34 o staff gweithredol ac mae 83% ohonynt yn gweithio mewn sawl sefydliad.
Perfformiad a Manteision
Y manteision i'r sefydliadau
• Mwy o effeithlonrwydd wrth i staff gael mwy o wybodaeth am brosesau a gweithdrefnau pob cartref
• Gwell ansawdd a chysondeb o ran y gwaith gan y staff sy'n gweithio shifftiau
• Effaith gadarnhaol ar breswylwyr sy'n dweud eu bod yn fwy bodlon o ran gofal a llesiant
• Rheoli rota mewn ffordd fwy effeithiol
• Mwy o gydlyniant tîm
• Talu llai o ffioedd i asiantaethau allanol
Mae adborth diweddar gan reolwyr yn dangos bod manteision ansawdd y gwasanaeth yn amlwg.
‘Mae gweithwyr gofal achlysurol Tîm Adnoddau'r Gweithlu yn weithlu hyblyg a chost-effeithiol sy'n trawsnewid y ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu ar draws yr awdurdod.’
‘Mae Tîm Adnoddau'r Gweithlu wedi bod yn ased amhrisiadwy i'n gwasanaeth. Rydyn ni wedi llwyddo i symud i ffwrdd o ddefnyddio staff asiantaeth ac rydyn ni bellach yn elwa ar dîm cyson o staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gyfarwydd â'r unigolion rydyn ni'n eu cefnogi.’
‘A bod yn deg mae'r gwasanaeth wedi lleddfu llawer o bwysau ar y cartref, ac mae'n galonogol cael ein staff "mewnol" hyfforddedig ein hunain, mae cysondeb yn allweddol i'r preswylwyr.’
‘Dydyn ni ddim wedi cael llawer o brofiad o Dîm Adnoddau'r Gweithlu hyd yn hyn ond yn edrych ymlaen at gyflwyno'r prosiect yn y dyfodol. Bydd yn ein helpu o ran recriwtio a chadw staff, parhad gofal a gweithlu â sgiliau gwell (nag asiantaeth).
Y manteision i'r staff
• Mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
• Mae staff sydd wedi trosglwyddo o'r asiantaeth yn hoffi bod yn rhan o Gyngor Sir Caerfyrddin yn lle asiantaeth allanol
• Mae staff yn gwerthfawrogi gallu gwneud mwy, oherwydd hyfforddiant a mwy o wybodaeth am y safleoedd
• Mae staff presennol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mwynhau gallu gweithio mwy o shifftiau a chael y cyfle i weithio ar draws gwasanaethau
• Mae staff presennol Cyngor Sir Caerfyrddin yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n well yn eu rôl ac maen nhw'n hyderus y byddan nhw'n gallu dibynnu ar staff sydd ar gael pan fydd y galw yn cynyddu, gan leihau'r risg o orflinder a straen yn y gweithle.
Adborth gan Alison, Aelod o'r Tîm
Ers ymuno â Thîm Adnoddau'r Gweithlu fis Mai diwethaf rwy'n teimlo fy mod i'n fwy hyderus i ddarparu'r gofal o'r ansawdd gorau. Mae rheolwyr y tîm yn fy helpu ac yn fy nghefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen i. Ers i fi weithio gyda'r tîm rwyf wedi dangos fy mhrofiad o weithio mewn gofal o'r blaen ac rwyf hefyd wedi dysgu gwybodaeth a sgiliau newydd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r holl breswylwyr rwy'n eu helpu.
Arbed costau
Mae'r prosiect wedi llwyddo i leihau faint o weithwyr asiantaeth sy'n cael eu defnyddio. Mae Tîm Adnoddau'r Gweithlu wedi cynyddu ei allu i gefnogi anghenion y sefydliadau yn raddol gan arwain at ddarparu 74% o'r shifftiau (dros 2000 awr) gan y Tîm erbyn Rhagfyr 24. Am bob awr sy'n cael ei gweithio gan Dîm Adnoddau'r Gweithlu mae'n arbed £3 o gymharu â’r gost petai staff asiantaeth yn gweithio’r shifft. Ym mis Rhagfyr 2024 roedd hyn yn cyfateb i arbed dros £6000.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r tîm?
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Tîm yn ychwanegol at eich rôl bresennol, neu os ydych chi'n adnabod rhywun a hoffai ymuno â'r tîm, gwnewch gais am un o'n swyddi Gweithwyr Gofal Achlysurol drwy dudalen Swyddi a Gyrfaoedd y cyngor.
Y potensial i ehangu
O ystyried llwyddiant y prosiect peilot, mae hyn bellach yn cael ei gyflwyno i rannau eraill o'r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae potensial mawr i'r dull hwn gael ei gyflwyno i rannau eraill o'r busnes sy'n chwilio am atebion cynaliadwy i heriau yn ymwneud â'r gweithlu.
Os hoffech chi ystyried a fyddai modd datblygu'r model neu'r dull hwn i gefnogi'ch tîm neu'ch gwasanaeth, cysylltwch â Linda Thomas yn y Tîm Trawsnewid neu gallwch gysylltu â'r tîm Trawsnewid drwy ein ffurflen we.
Trawsnewid
Newyddion diweddaraf
- Llofnodion Electronig
- Post Hybrid
- Ail-ddylunio'r weithfan, Tŷ Elwyn.
- Teithio Staff
- Ynni- Sut y Gallwch chi wneud gwahaniaeth?
- System Rheoli Dysgu Newydd
- Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad
- Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau Newydd Cymeradwywyd
- LLwyddiannau gyda Post Hybrid
- Tîm Gofal Cartref yn trawsnewid prosesau busnes i wella effeithlonrwydd
- Llwyddiannau Prosiect Peilot Tîm Adnoddau'r Gweithlu
Mwy ynghylch Trawsnewid