Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

18. Telerau ac Amodau yn Ystod Secondiad

Bydd holl drefniadau'r secondiad yn gofyn am amrywio contract y secondai.  Bydd Tîm Cymorth Adnoddau Dynol Rheoli Pobl yn cyhoeddi'r amrywiad yn amserol ar ôl i'r secondiad gael ei gytuno ac mae'r tîm wedi cael gwybod am y trosglwyddiad.  
  
Mae'r rheolwr llinell yn yr adran/sefydliad sy'n cynnal y secondiad yn gyfrifol am awdurdodi gwyliau blynyddol mewn trefniadau secondio ond yn unol â'r gwyliau blynyddol sydd wedi'u nodi yn nhelerau ac amodau cyflogi y gweithiwr:  
  
•    Dylid ei gwneud yn glir i'r gweithiwr y bydd ganddo'r hawl i ddychwelyd i'w swydd barhaol a'i gyflog bresennol ar ddiwedd y secondiad y cytunwyd arno.  

•    Bydd yr oriau gwaith fel y'u nodir yng nghontract cyflogaeth y gweithiwr.  

•    Mae'n rhesymol disgwyl i'r secondai dderbyn polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau iechyd a diogelwch yr adrannau/sefydliadau cynnal a gweithio yn unol â nhw.  

•    Bydd y gweithiwr yn dal i dderbyn cyflog a thalu cyfraniadau pensiwn, fel sy'n briodol, drwy gyflogres yr Awdurdod.  

•    Bydd polisïau cyflogaeth yr Awdurdod yn parhau i fod yn berthnasol i'r gweithiwr pan fydd ar secondiad â sefydliad allanol.  Mae'r rhain yn cynnwys y Polisi Rheoli Absenoldeb Salwch, y Polisi Disgyblu, Canllawiau ynghylch Safonau Ymddygiad a'r Polisi Achwyniadau.  

•    Bydd gwasanaeth di-fwlch yn parhau i gronni yn ystod cyfnod y secondiad.      Mae'n bosibl y cymerir camau disgyblu neu y gellir rhoi terfyn ar y secondiad os yw gweithiwr yn torri amodau a thelerau'r polisi secondiadau.