Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

9. Y Weithdrefn o Ran Gwneud Cais am Secondiad

Dylai gweithwyr drafod y secondiad gyda'u rheolwr llinell cyn gynted ag y bo modd a gofyn am ganiatâd ganddo cyn gynted â phosibl. Bydd angen cael cymeradwyaeth gan y rheolwr llinell er mwyn sicrhau y gellir rhyddhau'r gweithiwr o'i swydd bresennol ar sail secondiad.  
 
Nod yr Awdurdod yw ymdrechu i gefnogi ceisiadau am secondiadau mewnol. Dylai rheolwyr ystyried y canlynol cyn dod i benderfyniad ynglŷn ag a oes modd cefnogi'r cais:  
 
•    A nodwyd bod y cyfle am secondiad yn briodol yng nghynllun datblygu personol y gweithiwr?  
 
•    Beth yw'r gwerth i'r gweithiwr o ran ei ddatblygiad yn ystod cyfnod y secondiad? 
 
•    Beth yw'r manteision i'n sefydliad o ganlyniad i'r secondiad? 
 
•    Beth yw dichonoldeb rhyddhau gweithiwr o'r adran barhaol na ellir cael rhywun arall i gyflenwi'r swydd yn ei le sydd â'r un sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn ystod cyfnod o absenoldeb dros dro? 
 
•    Beth fydd canlyniad peidio â chefnogi'r secondiad?  
 
•    A fydd swydd barhaol y gweithiwr yn parhau i fod ar gael ar ddiwedd y secondiad?  
 
Dylai rheolwyr llinell ystyried os a sut y bydd swydd y secondai yn cael ei llenwi cyn i secondiad y gweithiwr gael ei gytuno a chyn iddo ddechrau. Gellir gofyn am gyngor gan y Tîm Adnoddau Dynol Rheoli Pobl, ond gellir llenwi swyddi fel a ganlyn:  
 
•    Recriwtio a phenodi gweithiwr dros dro drwy broses Recriwtio a Dethol yr Awdurdod;  
 
•    Gweithiwr presennol sy'n cyflawni dyletswyddau uwch yn y swydd, hyd nes bod y gweithiwr ar secondiad yn dychwelyd i'r gwaith (Gweler isod*); neu 
 
•    Bydd y swydd a gyflawnir gan y gweithiwr ar secondiad yn cael ei gadael yn wag. Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i reolwyr ystyried effaith y llwyth gwaith ar y tîm, sut y gellir cyflawni dyletswyddau yn absenoldeb y secondai neu a oes modd gadael elfennau o'r gwaith hyd nes bod y secondai'n dychwelyd.  
 
* Os ystyrir trefniadau cyflawni dyletswyddau uwch, rhaid cymryd gofal i bennu sut mae unigolion yn cael eu nodi i fod yn gymwys ar gyfer y cyfle datblygu hwn. Dylid gofyn am gyngor gan y Tîm Cymorth Adnoddau Dynol i sicrhau cyfle cyfartal. Mae'n arfer da gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan yr holl weithwyr yn yr adran/isadran berthnasol, fel sy'n briodol.