Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

8. Penodi Gweithiwr ar Secondiad i Swydd Barhaol

Os oes achos busnes ar gyfer penodi'r secondai i'r swydd yn barhaol, dylai'r penodiad gael ei reoli drwy weithdrefn Recriwtio a Dethol yr Awdurdod gan sicrhau bod y swydd yn cael ei hysbysebu, bod rhestr fer o ymgeiswyr yn cael ei chreu a bod cyfweliadau'n cael eu cynnal os yw'r ymgeiswyr hynny yn bodloni meini prawf y swydd. 
 
Os bydd y secondai yn gwneud cais am y swydd ac yn llwyddo i'w chael, bydd yn rhaid i'r secondai roi rhybudd o'i fwriad i adael ei swydd barhaol yn unol â'r telerau ac amodau cyflogi.  Os nad yw'r secondai'n llwyddiannus, mae'n ofynnol i'r Adran gynnal roi gwybod i'r secondai, a fydd yn dychwelyd i'w swydd barhaol yn yr Awdurdod.  
  
Fodd bynnag mae'n bosibl y bydd amgylchiadau eithriadol pan fydd angen i swydd sydd wedi cael ei hysbysebu fel secondiad ddod yn swydd barhaol am resymau gweithredol.  Yn y fath amgylchiadau, mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl, gan ystyried y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y swydd, i benodi'r secondai i'r swydd heb gynnal proses recriwtio bellach a thrwy gytuno ar hynny gyda'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) neu'r Ymgynghorydd AD enwebedig.