Polisi Secondiadau - Ionawr 2023
Yn yr adran hon
- 11. Secondiadau Mewnol ac Allanol
- 12. Gweithwyr Cyfnod Penodol/Dros Dro - Secondiadau a Gymeradwyir
- 13. Ystyriaethau Ariannol
- 14. Ystyriaethau Ariannol Ychwanegol
- 15. Goblygiadau Cyfreithiol/pobl
- 16. Rheoli'r Trefniant Secondiad
- 17. Dychwelyd i'r Gwaith Materion Rheoli
- 18. Telerau ac Amodau yn Ystod Secondiad
- 19. Cydraddoldeb
7. Hyd y Secondiadau
Yn ôl ei natur, mae secondiad yn drefniant dros dro. Y cyfnod hiraf ar gyfer secondiad fel arfer yw 2 flynedd.
Mae'n bosibl y bydd rheolwyr yn ystyried ymestyn cyfnod y secondiad os oes rhesymau gweithredol dros wneud hynny ac er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn parhau i ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sydd ar gael yn y ffordd orau posibl a bod y ddwy adran yn gytûn. Yn ogystal dylai rheolwyr ystyried a yw'n fwy priodol i'r swydd fod yn swydd barhaol yn hytrach nag ymestyn y secondiad fel yr amlinellir ym mharagraff 89.
Os cytunir bod estyniad i secondiad yn fwy priodol, dylai pob parti gytuno ar hyn a dylid diweddaru'r cytundeb secondiad er mwyn adlewyrchu'r dyddiad dod i ben hwn (rhaid i hwn fod am 6 mis o leiaf). Rhaid i reolwr y secondai yn yr adran gynnal drafod yr estyniad arfaethedig gyda rheolwr yr adran barhaol wreiddiol a cheisio cyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol ar y goblygiadau contractiol o ran cytuno ar estyniad i secondiad, cyn cadarnhau estyniad i secondiad gyda'r gweithiwr.
Os cytunir ar yr estyniad, mae'n rhaid adolygu hyn yn rheolaidd heb fod yn hwyrach na phob tri mis.
Os na ellir cytuno ar yr estyniad i secondiad gan y Cyfarwyddwr neu gynrychiolydd enwebedig yr adran barhaol, bydd y gweithiwr ar secondiad yn cael gwybod bod y penderfyniad hwn yn derfynol.
