Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

6. Hysbysebu Cyfle am Secondiad

Bydd pob swydd dros dro a thymor penodol o 12 mis neu fwy yn cael eu hysbysebu o hyd fel rhai addas ar gyfer secondiad.  
  
Gellir hysbysebu swyddi parhaol hefyd fel rhai sy'n addas ar gyfer secondiad lle bydd yn cefnogi datblygiad gweithwyr a chynllunio olyniaeth yn yr Awdurdod.  Mae'n bwysig bod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud cyn hysbysebu fel bod pob gweithiwr yn cael cyfle cyfartal i wneud cais am gyfle am secondiad.  
  
Dylid hysbysebu pob cyfle am secondiad yn unol â Pholisi a Gweithdrefn Recriwtio a Dethol a Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys llunio proffil swydd a manyleb person a chynnal y gwiriadau cyn cyflogi perthnasol sy'n addas gyfer y swydd benodol y ceisir amdani h.y. gwiriadau DBS, geirdaon ac ati.  
  
Pan fydd tîm prosiect newydd yn cael ei ddatblygu, bydd gweithwyr ar secondiad yn cael eu trosglwyddo ar y telerau ac amodau presennol (yn ystod cam cychwynnol y prosiect.  Bydd hyn yn cefnogi ac yn galluogi hyblygrwydd ac yn darparu cyfleoedd datblygu i unigolion tra bydd amcanion y prosiect yn datblygu.  Fodd bynnag, os yw tîm prosiect yn ymestyn y tu hwnt i 6 mis rhaid datblygu strwythur tîm y prosiect a phroffiliau rôl a'u hysbysebu yn y ffordd arferol.