Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

4. Cymhwysedd

Cyn cynnig secondiad, mae'n hanfodol bod yr adran gynnal a'r adran barhaol yn trafod ac yn cytuno er mwyn sicrhau bod pob parti yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau, eu disgwyliadau a'u cyfrifoldebau cyn dechrau'r secondiad.
 
•    Mae'n ofynnol i weithwyr fod wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn foddhaol gyda'r Awdurdod.

•    Rhaid i secondiadau bara o leiaf 12 mis ac uchafswm o 2 flynedd.  Bydd yr amserlen hon yn dibynnu i raddau helaeth ar ddiben y secondiad.  Dylai'r amserlen y cytunir arni adlewyrchu ac ystyried anghenion darparu gwasanaethau'r adran a'r tîm sy'n cyflogi'r gweithiwr ar secondiad. Ar gyfer secondiadau allanol rhaid diffinio'r cyfnod o secondiad yn glir yn y cytundeb secondiad sydd wedi'i lofnodi gan bob parti.
  
•    Argymhellir y dylai cyfnod y secondiad fod am o 12 mis o leiaf.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod y secondiad o fudd i'r adran sy'n cynnal y secondiad, datblygiad y gweithiwr ac i roi cyfle i'r adran gyflogi wreiddiol gynllunio ar gyfer absenoldeb y gweithiwr er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ei faes gwasanaeth.
  
•    Pe byddai'r adran gynnal a'r adran barhaol yn cytuno ar estyniad i secondiad, rhaid i hyn fod am gyfnod o 6 mis o leiaf.  
 
Noder y dylid defnyddio Polisi Secondiad yr Awdurdod yn ganllaw mewn achosion lle mae rhiant-sefydliad allanol yn secondio unigolyn i weithio yn yr Awdurdod ac nad oes gan y sefydliad hwnnw ei bolisi secondio ei hun.