Polisi Secondiadau - Ionawr 2023

15. Goblygiadau Cyfreithiol/pobl

Efallai y bydd achlysuron lle na fu'n bosibl i weithwyr gael cymorth o ran secondiad sydd wedyn yn dewis gwneud cais am swydd cyfnod penodol wag. Yn y sefyllfaoedd hyn, os bydd y gweithiwr yn llwyddiannus bydd yn cael cynnig y swydd honno ar sail cyfnod penodol. Fel cyflogwr, byddai'n rhaid i ni sicrhau bod y gweithiwr yn ymwybodol o'i oblygiadau o ran diswyddo. Fodd bynnag, ni ellir atal y gweithiwr rhag derbyn swydd cyfnod penodol.  
  
Gall y gweithiwr, yr adran barhaol a/neu'r adran/sefydliad sy'n cynnal y secondiad roi terfyn ar y secondiad. Dylid rhoi 4 wythnos o rybudd i bob parti.  Mae'r rhoi'r hysbysiad hwn yn ysgrifenedig. Os na fydd y gweithiwr yn dychwelyd i'r swydd ar ddiwedd y cyfnod rhybudd o 4 wythnos ac mae'n parhau i gael gwaith gan yr adran gynnal, bydd yn cael gwybod nad oes ganddo hawl mwyach i ddychwelyd i'w swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod penodol. Gweler y Canllawiau ynghylch contractau cyfnod penodol.