Incwm a Masnacheiddio
Diweddarwyd y dudalen: 20/09/2023
Chris Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethu Cofforeathol
Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.
- Annog proses o ddatblygu diwylliant ac ymagwedd fwy masnachol ar draws y sefydliad er mwyn cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir gan y Cyngor.
- Sicrhau bod gan y Cyngor sgiliau a galluoedd digonol i gefnogi’r ymagwedd hon.
- Sicrhau bod ffïoedd a thaliadau gwasanaethau yn adlewyrchu costau darparu’r gwasanaeth hwnnw oni bai fod achos busnes yn datgan fel arall
- Adnabod y potensial i gynhyrchu mwy o incwm trwy gael mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau
- Cynnig eglurder o ran y defnydd o ostyngiadau a chymorthdaliadau.
- Adolygu polisïau casglu incwm y Cyngor i sicrhau y caiff incwm ei gasglu yn y ffordd fwyaf effeithlon.
- Adolygu cyfleoedd i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd.
- Adnabod mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm trwy werthu gwasanaethau’r Cyngor i gyrff eraill yn y sectorau cyhoeddus/preifat tra’n sicrhau ei fod yn
- cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol perthnasol.
- Cryfhau prosesau adennill dyledion ymhellach a sicrhau bod capasiti digonol i adennill y lefelau uchaf posib o ddyledion.
Meysydd Prosiect |
Beth rydym yn ei wneud |
Strategaeth Fasnachol |
|
Adennill costau |
|
Hysbysebu a Noddi |
|
Adennill Dyledion |
|
Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo. Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.
Trawsnewid
Newyddion diweddaraf
- Llofnodion Electronig
- Post Hybrid
- Ail-ddylunio'r weithfan, Tŷ Elwyn.
- Teithio Staff
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Trawsnewid Ysgolion
- Ynni- Sut y Gallwch chi wneud gwahaniaeth?
- System Rheoli Dysgu Newydd
- Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad
- Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau Newydd Cymeradwywyd
- LLwyddiannau gyda Post Hybrid
- Tîm Gofal Cartref yn trawsnewid prosesau busnes i wella effeithlonrwydd
Mwy ynghylch Trawsnewid