Cwestiynau Cyffredin
Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023
Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch i roi gwybod am ddyddiad yr apwyntiad. Mae asesiad yn cynnwys cyfarfod â Meddyg neu Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol a fydd yn darparu adroddiad ynghylch pa mor iach ydych chi i weithio ac yn rhoi cyngor am y ffordd ymlaen gan gynnwys argymhellion e.e. unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen, ac ati.
Ni allwn eich gorfodi i fynd i atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol. Fodd bynnag, yn y pen draw, bydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch eich absenoldeb yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym ac yn y rhan fwyaf o achosion gall gwybodaeth feddygol gywir a chyfredol helpu i wneud penderfyniad gwell a mwy gwybodus ynghylch eich absenoldeb a sut y caiff ei reoli.
Os ydych yn cytuno i fynd i apwyntiad Iechyd Galwedigaethol ac yn ei fethu, efallai y gellir cynnig apwyntiad arall i chi. Fodd bynnag, gellir cymryd camau disgyblu yn eich erbyn os ydych yn methu apwyntiadau yn gyson. Gall y tîm Iechyd Galwedigaethol godi tâl ar eich Adran hefyd o ganlyniad i wastraffu apwyntiad a allai fod wedi cael ei roi i rywun arall.
Mae gennych hawl i weld yr Adroddiad Iechyd Galwedigaethol cyn iddo gael ei ryddhau i'ch Rheolwr Llinell neu'r Rheolwr sy'n gwneud yr atgyfeiriad. Fodd bynnag, wedi i 10 niwrnod fynd heibio o ddyddiad derbyn disgwyliedig yr Adroddiad Iechyd Galwedigaethol, bydd y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol yn rhannu'r adroddiad â'r Rheolwr Llinell Atgyfeirio a'r Ymgynghorydd Adnoddau Dynol.
Y Rheolwr Llinell neu'r Rheolwr Llinell Atgyfeirio, yr Ymgynghorydd Adnoddau Dynol ac Uwch Swyddogion perthnasol os bydd camau terfynol y weithdrefn yn debygol o gael eu rhoi ar waith, neu ar adeg lle gall gweithiwr ddefnyddio'i hawl i apelio neu ofyn am adolygiad.
Bydd y Tîm Rheoli yn gyfrifol am benderfynu ymarferoldeb gweithredu unrhyw addasiadau a awgrymwyd.
Iechyd Galwedigaethol
Mwy ynghylch Iechyd Galwedigaethol