Cyfrinachedd
Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023
Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn annibynnol ac yn ymgynghorol ac nid yw’n cynnwys rôl ddisgyblu.
Hefyd, mae gan y gwasanaeth rôl o ran rheoli diogelwch a systemau gweithio, gan ddarparu amgylchedd iach a diogel, a hynny’n cynnwys cyngor ynghylch Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Mae cofnod iechyd/meddygol yn cynnwys gwybodaeth am iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn y gellir ei adnabod o’r wybodaeth honno neu o’r wybodaeth honno ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y sawl sy’n dal y cofnod a wnaed gan neu ar ran gweithiwr iechyd proffesiynol mewn perthynas â gofal yr unigolyn hwnnw.
ABydd yr holl staff meddygol a gweinyddol yn cael eu hyfforddi mewn cyfrinachedd. Bydd yr Ymgynghorydd/y Cydgysylltydd Iechyd Galwedigaethol yn gwneud staff gweinyddol yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gadw’r holl wybodaeth yn gyfrinachol; mae hyn yn cynnwys y gofyniad iddynt beidio â darllen y nodiadau cyfrinachol a ysgrifennwyd â llaw gan y gweithwyr meddygol proffesiynol. Bydd hyn yn cael ei egluro ar lafar a’i gadarnhau’n ysgrifenedig a bydd pob unigolyn cysylltiedig yn llofnodi cytundeb cyfrinachedd.
Mae gan weithwyr hawl i ddisgwyl na fydd Ymarferwyr Iechyd Galwedigaethol/staff gweinyddol y gwasanaeth yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol heb iddynt gael eu hysbysu. Wedyn gall gwybodaeth a ddatgelir wrth Ymarferwyr Iechyd Galwedigaethol gael ei datgelu wrth y cyflogwr gyda chydsyniad gwybodus y gweithiwr (ac eithrio pan fo hynny’n ofynnol yn gyfreithiol, pan ellir cyfiawnhau hynny â rheswm sy’n ymwneud â budd y cyhoedd, neu mewn achosion prin pan fo hynny’n ofynnol ar gyfer ymchwil feddygol). Yn seiliedig ar yr wybodaeth hon, bydd y cyflogwr yn ffurfio barn ynglŷn ag addasrwydd unigolyn ar gyfer cyflogaeth trwy ddefnyddio cyngor y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a gweld a yw’r addasiadau/dewisiadau eraill addas a awgrymir yn ymarferol.
Pan fo Gweithiwr Iechyd Galwedigaethol Proffesiynol yn gyfrifol am wybodaeth gyfrinachol mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn cael ei diogelu’n effeithiol rhag cael ei datgelu’n amhriodol pan gaiff ei gwaredu, ei storio, ei throsglwyddo neu ei derbyn.
Pan fo Gweithwyr Iechyd Galwedigaethol Proffesiynol yn datgelu gwybodaeth am weithwyr/cleientiaid, mae’n rhaid i’r gweithwyr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol wneud yn siŵr bod yr unigolyn wedi rhoi cydsyniad i ryddhau’r wybodaeth hon (oni bai fod amgylchiadau eithriadol i’w cael), a’i fod yn deall beth fydd yn cael ei ddatgelu, y rhesymau dros ddatgelu, a’r canlyniadau tebygol. Dylid rhoi copi o unrhyw wybodaeth a ddatgelir i’r unigolyn os yw’n gofyn.
Mae’n rhaid i weithwyr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol barchu bod rhai amgylchiadau lle gall fod yn ofynnol peidio â datgelu gwybodaeth wrth drydydd partïon, heblaw dan amodau eithriadol (er enghraifft lle byddai risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch pobl eraill fel arall).
Os yw gweithwyr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol yna ni ddylent ond datgelu cymaint ag sy’n angenrheidiol at y diben.
Mae’n rhaid i weithwyr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol wneud yn siŵr bod y rhai y maent yn datgelu gwybodaeth wrthynt yn deall ei bod yn cael ei rhoi iddynt yn gwbl gyfrinachol, a bod yn rhaid iddynt barchu hynny.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfyngu ar fynediad at wybodaeth y maent yn ei dal am berson yn eu gofal, os yw’r wybodaeth honno’n debygol o achosi niwed difrifol i’r unigolyn neu berson arall.
Wrth ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol mae’n rhaid i Weithwyr Iechyd Galwedigaethol Proffesiynol allu dangos eu bod yn gwneud hynny am resymau sy’n ddilys ac y gellir eu cyfiawnhau.
Dan rai amgylchiadau penodol gall fod angen datgelu gwybodaeth yn ehangach er lles pobl eraill.
Mae canllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn datgan fel a ganlyn:
- Gall fod yn angenrheidiol datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd lle gallai methu â datgelu gwybodaeth adael claf neu eraill yn agored i risg o farw neu gael niwed difrifol. Dan amgylchiadau o’r fath dylai’r gweithiwr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol ddatgelu’r wybodaeth yn brydlon wrth berson neu awdurdod priodol.
Gall amgylchiadau o’r fath godi, er enghraifft:
Lle mae cydweithiwr sydd hefyd yn glaf yn achosi risg i gleifion o ganlyniad i salwch neu gyflwr meddygol arall. Lle mae’n angenrheidiol datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd difrifol.
Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i berswadio’r unigolyn i fod yn onest ynglŷn â’i gyflwr meddygol neu ba bynnag fater sy’n achosi’r pryder, neu o leiaf i roi caniatâd i’r gweithiwr iechyd galwedigaethol proffesiynol siarad amdano. Os oes risg rhagweladwy o niwed difrifol neu farwolaeth, yna bydd angen torri cyfrinachedd. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i gael cefnogaeth yr unigolyn i ddatgelu’r wybodaeth.
Mae’n rhaid i wybodaeth a roddir gan weithwyr/cleientiaid parthed proses sgrinio ar gyfer cyflogaeth newydd/atgyfeiriad gan reolwyr neu wybodaeth a gafwyd gan gyflogwr neu ddarparwr addysg blaenorol am hanes meddygol gan gynnwys absenoldeb oherwydd salwch, derbyniadau perthnasol i’r ysbyty a meddyginiaeth gael ei chofnodi. Os caiff y person ei recriwtio, bydd yr wybodaeth hon yn rhan o’i gofnodion iechyd galwedigaethol.
Lle mae nifer yr absenoldebau oherwydd salwch, neu ffactorau eraill, yn golygu bod angen i Ymarferydd Iechyd Galwedigaethol gael gwybodaeth feddygol bellach am gyflwr gweithiwr a bod angen cael rhagor o wybodaeth am yr hanes meddygol blaenorol, gellir cael yr wybodaeth gan feddyg teulu’r ymgeisydd. Bydd angen cydsyniad ysgrifenedig yr ymgeisydd er mwyn dilyn y broses hon (Mynediad at Gofnodion Meddygol) ac mae’n rhaid dweud wrth yr ymgeisydd pa wybodaeth yn union y bwriedir gofyn amdani a pham cyn y gellir cael cydsyniad cwbl wybodus. Dylid anfon copi o gydsyniad y person ynghyd â chopi o’r llythyr cais at feddyg teulu/arbenigwr at y meddyg teulu/arbenigwr gyda chais am wybodaeth benodol.
Bydd y gwasanaeth iechyd galwedigaethol yn egluro pa wybodaeth y maent yn ei cheisio gan feddyg teulu’r ymgeisydd, gan ystyried “Deddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol 1988” gan gynghori’r ymgeisydd ynghylch ei hawliau a chan barchu cyfrinachedd unrhyw wybodaeth glinigol a geir. (Gan fod y gwasanaeth hwn y tu allan i gwmpas gwasanaethau meddygol cyffredinol gellir disgwyl i feddygon teulu godi ar gyflogwyr am y gwasanaeth hwn). Mae’n rhaid i farnau meddygol fod yn seiliedig ar safonau iechyd galwedigaethol y gellir eu cyfiawnhau. Mae canfyddiadau sy’n barnu a barnau ynglŷn â gwerth a gaiff eu ffurfio am bobl ag anableddau neu namau yn annerbyniol.
Os ydych yn dymuno cael mynediad at eich cofnodion meddygol, byddem yn eich annog i wneud hyn trwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Gellir gwneud hyn trwy:
- E-bost: IechydGalwedigaethol@sirgar.gov.uk, neu
- Gellir derbyn ceisiadau ar lafar hefyd (bydd gwiriadau ar lafar yn cael eu cynnal i brofi pwy ydych. Os oes angen prawf adnabod pellach, e.e. cerdyn adnabod/trwydded yrru, mae gan y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yr hawl i ofyn am hyn)
Mae’n rhaid i chi ddatgan i bwy y bydd y cofnodion yn cael eu rhyddhau a’ch cyfeiriad a’ch dyddiad geni/rhif gweithiwr, pa ran o’r cofnodion yr ydych yn dymuno iddi gael ei rhyddhau os nad ydych am gael mynediad at y cofnod cyfan. Os ydych yn gofyn am gopïau o’ch cofnodion trwy’r post, rhaid i chi drefnu i ddod i’w casglu eich hun o’r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol a dangos prawf pwy ydych. Rhaid i chi lofnodi a rhoi dyddiad ar y cais os ydych yn gwneud y cais trwy’r post.
Bydd mynediad yn cael ei roi o fewn mis i dderbyn y cais. Ni fydd unrhyw gofnodion yn cael eu hanfon at unigolyn drwy ffacs dan unrhyw amgylchiadau.
Os gwneir cais trwy’r e-bost, bydd y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol yn anfon y cofnodion yn electronig trwy system gyfnewid ddiogel.
Er mwyn cael copïau o ddogfennau na chawsant eu creu’n wreiddiol gan y gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol dylid gofyn i’r awdur; fodd bynnag, os yw gweithiwr yn mynnu, mae ganddo’r hawl i gael copïau o’i gofnod cyfan a gofnodwyd ar ôl mis Tachwedd 1991 gan y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol.
Mae gennych yr hawl i weld data personol y mae'r Cyngor yn ei brosesu amdanoch, gan gynnwys y wybodaeth a ddefnyddir gan y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol. Pan fyddwch yn arfer yr hawl hon a bod cwmpas y cais yn cynnwys gwybodaeth am Iechyd Galwedigaethol, bydd angen rhannu ein cofnodion â'r Swyddog Gwybodaeth a Diogelu Data a swyddogion eraill lle bo angen, er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Adran 7 o Ddeddf Diogelu Data 1998, a gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar ôl 25 Mai 2018.
Mae ein hysbysiad preifatrwydd hefyd yn rhoi trosolwg o’r modd y mae ein gwasanaeth yn prosesu eich gwybodaeth.
Mae’r ddyletswydd cyfrinachedd yn parhau ar ôl marwolaeth unigolyn y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddo. Cysylltwch â’r Cydgysylltydd Iechyd Galwedigaethol os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth bellach am wybodaeth gyfrinachol.
- Cod Ymarfer Cyfrinachedd y GIG (Yr Adran Iechyd, Tachwedd 2003)
- Deddf Diogelu Data 1998
- Y Cod: Safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg ar gyfer nyrsys a bydwragedd (2008) Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Clefydau Heintus) 1998
- Deddf Iechyd y Cyhoedd 1984
- The Management of Health, Safety and Welfare Issues for NHS Staff HSG(98)064
- HSC2000/019 Gweithdrefnau Penodi ar gyfer Staff Meddygol a Deintyddol mewn Ysbytai ac yn y Gymuned.
- Duties of a Doctor. Canllawiau gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol GMC.
- Guidance on Ethics Y Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol.
- Taflenni Cyfarwyddyd UKCC (amrywiol)
- Deddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol 1988.
- Deddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990
- Lynn Holland ( 2012) Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol, RN Dip OH RSCHN (OH)
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (2012)
Iechyd Galwedigaethol
Mwy ynghylch Iechyd Galwedigaethol