Apwyntiad Fideo
Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023
Eich Apwyntiad Fideo - Beth mae angen i chi ei wybod:
Mae galwad fideo yn gyfleus ac yn hawdd i'w defnyddio! Yn hytrach na theithio i'ch apwyntiad, anfonir dolen Microsoft Teams atoch drwy e-bost.
Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen i'r fideo, bydd yr ymarferydd yn cael gwybod eich bod yn aros a byddwch yn ymuno â'r apwyntiad.
Mae galwadau fideo yn ddiogel, ac mae eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Fodd bynnag, rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod mewn man cyfrinachol sydd wedi'i oleuo'n dda, lle gallwch siarad yn agored â'r ymarferydd.
Dyfais ar gyfer gwneud galwad fideo, fel ffôn clyfar, llechen, neu gyfrifiadur sydd â gwe-gamera a seinydd (yn rhan o liniaduron gan amlaf).
Cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy (gwifrog, WiFi neu ddata symudol). Os gallwch wylio fideo ar-lein, dylech allu gwneud galwad fideo.
Man preifat sydd wedi'i oleuo'n dda ar gyfer eich ymgynghoriad, sy'n gyfrinachol a lle na fydd tarfu arnoch chi.
Mae gennych eich ystafell fideo breifat eich hun, a dim ond ymarferwyr ag awdurdod all gael mynediad iddi.
Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych yn cael ei rhannu. Cyn i'ch adroddiad gael ei anfon at eich rheolwr, gofynnir am eich caniatâd
Mae'r alwad fideo am ddim heblaw am eich defnydd o'r rhyngrwyd. Gair o gyngor! Os gallwch, cysylltwch â rhwydwaith Wi-Fi er mwyn osgoi defnyddio eich data symudol.
Nid yw'r alwad fideo yn defnyddio data tra byddwch yn aros i rywun ymuno â chi.
Ar ôl i'r alwad gysylltu, mae'r data mae'n ei ddefnyddio'n ddigon tebyg i Skype® neu FaceTime®.
Os nad yw eich galwad fideo yn gweithio ac nad ydych wedi gallu cysylltu â'r ymarferydd o fewn y 10 munud cyntaf, cysylltwch â'r Tîm Iechyd Galwedigaethol (01267 246 060).
Bydd yr ymarferydd yn gwneud dwy ymgais i gysylltu â chi ar adeg yr apwyntiad a drefnwyd. Fodd bynnag, os nad ydynt wedi gallu cysylltu â chi o fewn 15 munud cyntaf y sesiwn honno; bydd yn rhaid aildrefnu'r apwyntiad. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â'r Tîm Iechyd Galwedigaethol (01267 246 060) i drefnu apwyntiad newydd.
Iechyd Galwedigaethol
Mwy ynghylch Iechyd Galwedigaethol