Apwyntiadau Ffôn

Diweddarwyd y dudalen: 09/01/2025

Eich Apwyntiadau Ffôn Beth mae angen i chi ei wybod:

Apwytiadau Ffon

Mae Apwyntiadau Ffôn yn gyfleus ac yn hawdd eu defnyddio. Fel gyda Galwadau Fideo, yn hytrach na theithio i'ch apwyntiad, byddwn yn cysylltu â chi ar y rhif cyswllt o'ch dewis.

Mae Apwyntiadau Ffôn yn ddiogel, ac mae eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Fodd bynnag, rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod mewn man cyfrinachol lle gallwch siarad yn agored â'r ymarferydd.

Beth fydd ei angen arnaf?

Ffôn symudol neu linell dir - Sicrhewch eich bod mewn lleoliad sydd â digon o signal i osgoi unrhyw broblem cysylltu yn ystod yr alwad.

Lle preifat, cyfrinachol ar gyfer eich ymgynghoriad, lle byddwch yn teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored ac yn rhydd a lle na fydd rhywun yn tarfu arnoch.