Pwy fydda i'n ei weld?
Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Mae ganddynt brofiad helaeth ac maent yn arbenigo mewn achosion o absenoldeb salwch. Maent yn rhoi sylw i'r problemau y mae gweithwyr yn eu hwynebu er mwyn dod o hyd i ffyrdd o'u helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Maent yn feddygon profiadol sydd wedi cael hyfforddiant mewn Iechyd Galwedigaethol. Maent yn ymdrin â'n hachosion mwy cymhleth er mwyn sicrhau bod cleientiaid yn cael eu hasesu a'u cefnogi'n llawn.
Mae ymarferwyr y Gwasanaeth Cymorth Llesiant yn weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â hyfforddiant arbenigol wrth ddarparu ymyriadau seicolegol.
Mae gan ein Nyrsys Iechyd Galwedigaethol gymwysterau uchel, maent yn gyfrifol am gwblhau Arolygon Iechyd statudol, ffitrwydd i weithio ac asesiadau meddygol arfer da. Yn ogystal ag asesiadau cyflogaeth a gweithwyr nos newydd.
Mae ffisiotherapyddion yn trin cleifion er mwyn adfer y modd y mae'r corff yn gweithredu ac yn symud i'r graddau gorau posibl pan effeithir arnynt gan anaf, salwch, anabledd datblygiadol, neu ryw anabledd arall.
Iechyd Galwedigaethol
Mwy ynghylch Iechyd Galwedigaethol