Helpu Chi I Helpu Eich Hunan

Diweddarwyd y dudalen: 03/12/2024

Byw Bywyd yn Llawn

Dechrau Byw Bywyd yn Llawn: Gall ein hymagwedd Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) profedig at hunangymorth eich helpu i helpu'ch hun trwy ddysgu sut i roi trefn ar eich teimladau pan fyddwch chi'n teimlo'n isel, yn bryderus neu'n anobeithiol.

Gwnewch wahaniaeth i'ch bywyd mewn wyth sesiwn: dysgwch sut i roi trefn ar eich teimladau pan fyddwch chi'n teimlo'n isel, yn bryderus neu'n anobeithiol a dysgwch sgiliau sy'n mynd i'r afael â phroblemau yn eich bywyd. Gweithiwch drwy'r wyth modiwl yn eu trefn, neu dechreuwch gyda'r pwnc sy'n effeithio fwyaf arnoch ar hyn o bryd.

Mae Byw Bywyd yn Llawn yn gwrs ar-lein cyflawn, hunangynhwysol, sydd ar gael am ddim i chi ei ddefnyddio ar eich pen eich hun ar hyn o bryd.

Cwrs Ar-lein Am Ddim: Byw Bywyd yn Llawn


E-ddysgu

Gall Gwytnwch Personol fod yn allweddol o ran sut rydym yn ymdrin â sefyllfaoedd sy’n llawn straen neu’n anodd a bydd yn helpu unigolion i wella’u perfformiad yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u llesiant. Bwriad y modiwl yw eich cael chi i ddeall ac i feddwl am eich gwytnwch eich hun a sut y gellid ei wella.

Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Gellir gweld y modiwlau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, ar wefan Croeso! – Thinqi Sirgar