Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad
Diweddarwyd y dudalen: 09/04/2024
Yn dilyn ymgysylltiad helaeth Llif Gwaith y Gweithlu Trawsnewid â rheolwyr gwasanaeth, Penaethiaid Gwasanaeth a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol ar alluogi gweithlu hyblyg, mae'n amlwg bod fframwaith cyflogaeth priodol ar waith, y gellir ei 'hyblygu' i helpu gwasanaethau i gyflawni mewn ffordd ddynamig.
Canfuwyd bod anghysondeb ar draws y sefydliad o ran dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'r fframwaith cyflogaeth hwn i hwyluso gweithlu hyblyg a deinamig.Yr allwedd bob amser yw ymgysylltu'n gynnar â'ch cynlluniau darparu gwasanaeth a'ch gweithlu gyda'ch Partneriaid Busnes Arweiniol/Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol fel y gellir trafod a chytuno ar atebion a hyblygrwydd priodol sy'n galluogi eich cynlluniau darparu gwasanaeth ac yn cadw'r Awdurdod o fewn terfynau statudol.
Isod fe welwch fanylion ynghylch sut y gellir defnyddio'r fframwaith i fynd i'r afael â rhai o'r meysydd allweddol a godwyd yn y trafodaethau.
- Proffiliau Swyddi – Mae'r rhain wedi'u cynllunio gennych chi fel rheolwr ac felly gallwch chi fod yn hyblyg o ran y dull o ddarparu gwasanaethau yn y proffil swydd i gefnogi hyblygrwydd y gwasanaeth. Gellir gwneud hyn pan fydd rôl yn dod yn wag neu mewn ymgynghoriad â gweithiwr neu dîm i sicrhau bod eu proffil swydd yn adlewyrchu'r rôl y mae'n ofynnol iddynt ei chyflawni. Gall timau Adnoddau Dynol a Gwerthuso Swyddi gynnig cyngor.
- Mae proffiliau swyddi yn ddynamig a dylid eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y rôl a'r busnes. Dylid adolygu hyn o leiaf bob blwyddyn fel rhan o'ch sgwrs arfarnu gydag aelodau'r tîm. Dylai unrhyw addasiadau i broffil swydd gael eu gwerthuso gan y tîm Gwerthuso Swyddi i sicrhau bodd y raddfa'n briodol. Os yw rheolwr o'r farn bod gradd rôl yn rhy isel o gymharu â rôl arall, gall y tîm Gwerthuso Swyddi roi cyngor a chymorth ar wahaniaethau allweddol a nodweddion tebyg i reolwyr cymorth wrth adolygu proffil swydd. Os yw gweithiwr yn codi achwyniad mewn perthynas â'i radd, darllenwch yr canllawiau mewn perthynas ag achwyniadau ynghylch graddau swyddi.
- Os ydych wedi sicrhau hyblygrwydd mewn proffiliau swyddi ac mae gweithiwr yn deall ac wedi derbyn cwmpas hyblygrwydd y gwasanaeth a ddisgwylir, fel rheolwr gallwch roi dyletswyddau eraill i staff neu eu symud i leoliadau eraill i gefnogi darparu gwasanaethau yn ôl yr angen. Sicrhewch pan ofynnir i staff weithio'n hyblyg mewn lleoliadau eraill, eu bod yn cael eu talu ar eu cyfradd parhaol ar gyfer gwaith ychwanegol/amgen ac nid ar waelod y radd. Os bydd gweithwyr yn dewis gwneud cais am swydd ychwanegol, byddant yn cael eu talu yn unol â chanllawiau cyflog recriwtio sydd fel arfer ar waelod y radd. Gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol yn ôl yr angen.
- Mae llwyfan recriwtio Oleeo yn cael ei gyflwyno i'r sefydliad ac mae rheolwyr sy'n recriwtio nifer uchel o staff yn cael eu gwahodd i sesiynau hyfforddi. Rhagwelir y bydd y platfform hwn yn datrys llawer o'r pryderon a amlygwyd yn yr adolygiad gweithlu hyblyg a dynamig mewn perthynas ag oedi canfyddedig yn y broses recriwtio. Bydd y system newydd yn gallu monitro cynnydd a bydd rheolwyr yn gallu gweld ble mae eu swydd yn y broses recriwtio.
- Mae ysgrifennu hysbysebion effeithiol i helpu i recriwtio'r bobl gywir y tro cyntaf yn bwysig, ac mae canllawiau i'ch helpu o ran hyn o beth wedi'u cynnwys yn OleeoMae'r Tîm Recriwtio wrthi'n datblygu Ymgynghorwyr Recriwtio a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar ymgyrchoedd recriwtio penodol a chysylltu â'r Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol i gael cymorth lle bo hynny'n briodol.
-
Mae llawer o wahanol fathau o gontractau/newidiadau ar gael i gefnogi hyblygrwydd yn y tymor byr a'r tymor hir; secondiad, mynegiannau o ddiddordeb, honoraria, dyletswyddau uwch, oriau blynyddol, swyddi hyblyg sy'n cefnogi cyflenwi o gronfa. Mae'r manylion, gan gynnwys manteision pob un, ynghyd â'r llwybr o ran recriwtio i'r swyddi hyn, ar gael
- Siaradwch â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol i gael cyngor ar ba fath o gontract sy'n addas i anghenion eich gwasanaeth.
Mae'r eithriadau o ran caniatâd i recriwtio a'r broses ar gyfer caniatâd i recriwtio y tu allan i'r broses recriwtio. Prosesau rheoli corfforaethol yw'r rhain. Dylid tynnu sylw eich Pennaeth Gwasanaeth/Cyfarwyddwr at unrhyw bryderon mewn perthynas â chaniatâd i recriwtio neu eithriadau.
- Gellir ystyried contractau cynnydd/gyrfa i gefnogi cynllunio gweithlu'r gwasanaeth ac fel cymhelliant recriwtio a chadw ar gyfer ymgeiswyr a gweithwyr. Fodd bynnag, er mwyn diogelu'r awdurdod rhag risg cyflog cyfartal, rhaid nodi'r rhain fel camau i liniaru risg y gweithlu o fewn eich cynllun gweithlu a chytuno ar y cychwyn drwy Adroddiad Swyddog Dirprwyedig y cytunwyd arno gyda'ch cyfarwyddwr oherwydd y goblygiadau o ran pobl ac arian.
- Dylai fod paramedrau clir a gwrthrychol ar gyfer symud ymlaen o un radd i radd arall
- Mae'r Academi Gofal yn enghraifft o lwybr dilyniant gyrfa. Gall gweithwyr ddechrau ar Lefel 2 ar Radd B gan wybod os ydynt yn aros gyda'r cyngor y gallant symud ymlaen trwy'r rhaglen a'r graddau cyflog, ynghyd â gweithio tuag at gwblhau gradd mewn gwaith cymdeithasol wedi'i hariannu'n llawn, gyda'r posibilrwydd o gael rôl Gradd I am o leiaf 3 blynedd ar ôl ei chwblhau.
- Anogir pob adran i ymgysylltu â'r adnoddau cynllunio'r gweithlu sydd ar gael ar y fewnrwyd a siarad â'u Partner Busnes Adnoddau Dynol Arweiniol i gael cyngor.
- Mae Polisi Cyfnod Prawf diwygiedig - cofiwch nad oes angen i chi aros tan gyfarfod cyfnod prawf cyn codi pryder gyda gweithiwr newydd. Os oes gennych bryderon ynghylch perfformiad a/neu bresenoldeb gweithiwr, dylech drafod y manylion gyda'ch partneriaid busnes Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl i gytuno ar y camau gorau ym mhob achos. Byddwch hefyd yn derbyn Rhybuddion Busnes ar gyfer Rheolwyr sy'n eich annog i weithredu ar gerrig milltir allweddol yn y weithdrefn.
- Fel nodyn atgoffa, os oes gennych bryder am absenoldeb salwch yn ystod cyfnod prawf, caiff hyn ei reoli drwy'r polisi cyfnod prawf ac nid y polisi absenoldeb salwch.
- Gall yr holl reolwyr ac unedau cymorth busnes adrannol gynnal ystod o adroddiadau pobl y swyddi sy'n atebol iddynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan ddefnyddio Gwasanaethau Adrodd ResourceLink. Gweler canllawiau Gwasanaethau Adrodd ResourceLink ar y fewnrwyd.
- Edrychwch ar ein tudalennau mewnrwyd wedi'u hadnewyddu sy'n darparu ein polisïau a'n canllawiau ar ystod o bynciau.
- Mae ein polisïau corfforaethol yn darparu'r ffiniau o fewn fframwaith deddfwriaethol ac arfer da. Os oes gennych sefyllfa wahanol, trafodwch hyn gyda'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol a all gynghori ar amrywiadau neu atebion posibl o fewn fframwaith polisi. e.e. daw cyllid grant munud olaf ar gael ym mis Tachwedd ond rhaid ei ddefnyddio erbyn 31 Mawrth – yn dibynnu ar yr amgylchiadau efallai y bydd polisïau yn cael eu 'hyblygu' gyda chyngor cyflogaeth priodol.
- Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen sefydlu rheolwyr i ategu'r cyfnod sefydlu gweithwyr a'r Academi Arweinyddiaeth a lansiwyd yn ddiweddar. Bydd hyn yn darparu llwybr i reolwyr newydd i'w cefnogi i ddeall eu cyfrifoldebau newydd a sut y gallant gael mynediad at ddatblygu sgiliau i gefnogi'r gwaith o rheoli pobl o ddydd i ddydd. Cadwch lygad allan am gylchlythyr yn y dyfodol i gael rhagor o wybodaeth.
Trawsnewid
Newyddion diweddaraf
- Llofnodion Electronig
- Post Hybrid
- Ail-ddylunio'r weithfan, Tŷ Elwyn.
- Teithio Staff
- Ynni- Sut y Gallwch chi wneud gwahaniaeth?
- System Rheoli Dysgu Newydd
- Gweithlu Hyblyg a Dynamig Adnoddau ac Arweiniad
- Fframwaith Adolygiad Gwella Gwasanaethau Newydd Cymeradwywyd
- LLwyddiannau gyda Post Hybrid
- Tîm Gofal Cartref yn trawsnewid prosesau busnes i wella effeithlonrwydd
Mwy ynghylch Trawsnewid