Cadeirio Cyfarfod Hybrid

Diweddarwyd y dudalen: 17/07/2024

Mae cadeirio cyfarfodydd hybrid effeithiol yn gofyn am gynllunio a gweithredu meddylgar. Dylech bob amser ystyried cynnwys y Gymraeg i hybu cynhwysiant a dathlu amrywiaeth ieithyddol eich tîm.

Dyma rai syniadau arfer gorau i'ch helpu i lwyddo:

  1. Cynllunio Agenda Gynhwysol: Creu agenda sy'n ystyried pobl sy’n cymryd rhan wyneb yn wyneb ac o bell. Dewis gweithgareddau torri'r iâ y gall pawb gymryd rhan ynddynt.
  2. Agenda Ddwyieithog: Creu agendâu ar gyfer y cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg. Cynnwys pwyntiau allweddol, pynciau trafod ac eitemau gweithredu yn y ddwy iaith. Mae hyn yn sicrhau y gall yr holl gyfranogwyr ddilyn a chymryd rhan yn effeithiol.
  3. Rhannu Agenda'r Cyfarfod Ymlaen Llaw: Sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn derbyn agenda'r cyfarfod ymhell ymlaen llaw. 
  4. Arferion Iaith: Atgoffa'r cyfranogwyr i barchu dewisiadau iaith. Efallai y bydd rhai aelodau o'r tîm yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn Gymraeg, tra bod eraill yn ffafrio Saesneg. Annog pawb i fod yn amyneddgar ac yn oddefgar.
  5. Arferion Cyfranogi: Atgoffa'r rhai sy'n bresennol sut i gymryd rhan er mwyn atal pobl rhag siarad ar draws ei gilydd a sicrhau cyfranogiad teg.
  6. Cydbwyso Cyfranogiad: Neilltuo rhywun i'ch helpu i reoli cyfranogiad neu benodi hwylusydd. Mae hyn yn sicrhau bod aelodau o staff sy'n cymryd rhan wyneb yn wyneb ac o bell yn cael cyfle cyfartal i gyfrannu.
  7. Dirprwyo Cyfrifoldebau: Fel Cadeirydd, byddwch yn bresennol yn yr ystafell yn hytrach na chymryd rhan o bell. Os yw'n bosibl, dirprwywch rai cyfrifoldebau i eraill i sicrhau nad oes dim yn disgyn drwy'r rhwyd.
  8. Defnyddio Offer Cydweithredu Digidol: Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr un wybodaeth, ystyriwch ddefnyddio byrddau gwyn rhithwir, dogfennau a rennir a llwyfannau sgwrsio i wella cydweithredu.

 

Mae rhagor o wybodaeth am gynnal cyfarfodydd dwyieithog ar ein tudalennau mewnrwyd Gweithio'n ddwyieithog.