Sut ydych chi'n cymryd rhan mewn cyfarfod hybrid?

Diweddarwyd y dudalen: 17/07/2024

Awgrymiadau ar gyfer cymryd rhan yn effeithiol mewn cyfarfod

P'un a ydych chi'n mynychu'r cyfarfod wyneb yn wyneb neu o bell, mae'r un rheolau yn berthnasol i bob cyfarfod, hynny yw, bod yn garedig ac yn barchus a pharatoi cyn cyrraedd.

Paratoi

Yn aml, dywedir mai amser yw'r rheswm dros beidio â pharatoi'n ddigonol ar gyfer cyfarfod. Ac eto, pan fydd cyfnod o amser yn cael ei neilltuo i wneud hynny, mae'r cyfarfod yn fwy cynhyrchiol, ac mae pawb yn gadael â chamau gweithredu clir. Dylech neilltuo amser ffocws a threulio 5-10 munud yn adolygu'r agenda a'r dogfennau cysylltiedig. Mae bod yn barod yn eich helpu i allu rhoi cyfraniadau gwerthfawr yn y cyfarfod.

Osgoi cyflawni sawl tasg ar yr un pryd

Bydd cael cyfranogwyr ar-lein ac mewn ystafell yn golygu bod yn rhaid i bawb roi sylw manwl i'r hyn sy'n cael ei ddweud a chan bwy. Mae'n bwysig osgoi cyflawni sawl tasg ar yr un pryd, fel gwneud gwaith arall neu ateb galwadau ffôn yn ystod y cyfarfod, oni bai mewn argyfwng.

Awgrymiadau os ydych chi'n mynychu'r cyfarfod o bell

  • Mewngofnodwch ychydig ymlaen llaw i sicrhau bod eich sain a'ch fideo yn gweithio.
  • Yn ddelfrydol, rhowch eich camera ymlaen gan ei bod yn well gan bobl siarad â pherson yn hytrach nag eicon ar sgrin.
  • Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr neu'n cael problemau technegol yn mewngofnodi i'r sesiwn, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i drefnydd y cyfarfod.
  • Dilynwch reolau'r cyfarfod e.e. diffodd eich meicroffon neu godi eich llaw cyn siarad.
  • Dylech osgoi pethau a allai dynnu sylw fel y gallwch ganolbwyntio ar y cyfarfod a chymryd rhan ynddo.

Awgrymiadau os ydych chi'n mynychu'r cyfarfod wyneb yn wyneb

Os ydych chi'n mynychu'r cyfarfod wyneb yn wyneb:

  • Ceisiwch gyrraedd ychydig cyn amser dechrau'r cyfarfod i sicrhau bod yr holl offer yn gweithio i gysylltu â chyfranogwyr ar-lein.
  • Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i drefnydd y cyfarfod.
  • Os bydd cyfranogwyr yn ymuno drwy sgrin fawr yn yr ystafell neu os bydd y sain yn dod o un cyfrifiadur yn yr ystafell, diffoddwch eich offer er mwyn osgoi adborth sain.
  • Os ydych chi'n rhannu cyfrifiadur neu ddyfais yn yr ystafell gyfarfod, sicrhewch fod modd gweld pawb yn y fideo.
  • Dylech osgoi mân-sgwrsio ag eraill. Os yw'r sgwrs yn troi at rywbeth yn yr ystafell gyfarfod, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd y rhai sy'n mynychu o bell yn gwybod beth rydych chi'n cyfeirio ato. Sicrhewch eich bod yn egluro beth rydych chi'n siarad amdano o'r cychwyn cyntaf.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Canllawiau Ymddygiad mewn Cyfarfodydd ar y fewnrwyd.