Cwestiynau Cyffredin Thinqi
Diweddarwyd y dudalen: 16/05/2024
Beth yw Platfform Profiad Dysgu [LXP]?
Mae Platfform Profiad Dysgu yn ddarn o feddalwedd sy'n creu profiadau dysgu mwy personol, ac yn helpu defnyddwyr i ddarganfod cyfleoedd dysgu newydd. Enghraifft o hyn fyddai cyfuno cynnwys dysgu o wahanol ffynonellau, eu hargymell a'u cyflwyno mewn ffordd hyblyg.
Beth yw System Rheoli Dysgu?
Mae System Rheoli Dysgu yn ddarn o feddalwedd sydd wedi'i gynllunio i greu profiad dysgu mwy diddorol ac mae'n cyfuno cyrsiau hyfforddi ar-lein â dysgu anffurfiol yn y gweithle.
Beth yw Thinqi ['Think-e']?
Mae Thinqi yn dod â nodweddion System Rheoli Dysgu modern at ei gilydd i helpu i drefnu a rheoli eich anghenion dysgu, e.e. drwy sicrhau bod cynnwys ar gael i chi a'n gweithlu. Mae'n gwneud hyn wrth gyfuno nodweddion Platfform Profiad Dysgu i ddarparu profiad dysgu mwy personol sy'n galluogi defnyddwyr i ddarganfod amrywiaeth ehangach o ffynonellau ac adnoddau dysgu.
Pam mae angen System Rheoli Dysgu?
Gall System Rheoli Dysgu helpu i uwchsgilio’r gweithlu. Mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn gallu cyrraedd pobl gyda’r dysgu cywir mewn ffordd y gallant ei gyrchu'n hawdd, ond hefyd yn gallu neilltuo'r llwybrau datblygu perthnasol i ddiogelu ein gweithlu yn y dyfodol.
Pryd fydd Thinqi ar gael i mi? Ydy aelodau eraill o staff eisoes yn ei ddefnyddio?
Mae Thinqi yn cael ei gyflwyno ar draws pob adran o'r Cyngor a bydd ar gael i'r holl staff. Mae hyn yn cael ei drefnu fesul cam, a bydd yr holl staff yn cael eu sefydlu gyda chyfrif defnyddiwr dros y misoedd nesaf.
Pam nad ydw i wedi cael yr holl eiconau rwyf wedi'u gweld ar y fideo?
Y flaenoriaeth gychwynnol i bawb yw ymgyfarwyddo â'r system a chwblhau'r Dysgu Hanfodol. Unwaith y bydd y system wedi'i chyflwyno i holl ddefnyddwyr Cyngor Sir Gâr, byddwn yn ychwanegu mwy o gynnwys ac yn galluogi mwy o'r eiconau.
A allaf gael Thinqi ar fy ffôn symudol?
Gallwch. Rydym wedi gweithio gyda Thinqi fel bod y system newydd yn gwbl ymatebol ar gyfer dyfeisiau symudol a phorwyr gwe felly rydych chi'n rhydd i ddysgu wrth fynd. Os yw'n ddyfais y cyngor ac wedi'i chysylltu â’r rhwydwaith, gallwch ddefnyddio'r opsiwn Login y Cyngor i fewngofnodi arno.
Lle gallaf gael cyfrinair ar gyfer aelodau fy nhîm os nad oes ganddynt gyfeiriad e-bost CCC?
E-bostiwch Dysguadatblygu@sirgar.gov.uk gan roi enw a rhif Yswiriant Gwladol yr aelod o'r tîm i gael ei gyfrinair yn gyntaf. Yna gallant ddefnyddio'r cyfrinair hwn gyda'u rhif Yswiriant Gwladol i gael mynediad am y tro cyntaf. Sylwer, am resymau diogelwch, y bydd cyfrineiriau ond yn cael eu hanfon i gyfeiriad e-bost gwaith y rheolwr ac felly ni ddylai'r gweithiwr ei hun ofyn amdanynt.
Rwyf wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond nid wyf yn gallu mewngofnodi. Ble galla i gael cymorth?
Os ydych chi'n ceisio defnyddio'r opsiwn Login y Cyngor i fewngofnodi i Thinqi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio dyfais y cyngor, a'ch bod wedi cysylltu â'r rhwydwaith.
Os oes gennych gyfeiriad e-bost gwaith a'ch bod yn ceisio mewngofnodi gan ddefnyddio'r opsiwn enw defnyddiwr a'r cyfrinair, cliciwch 'Anghofiwch eich cyfrinair?' a nodwch eich cyfeiriad e-bost gwaith i ailosod eich cyfrinair Thinqi.
Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gwaith, gofynnwch i'ch rheolwr llinell i gysylltu â'r tîm Dysgu a Datblygu am eich cyfrinair yn gyntaf.
Os ydych dal yn cael trafferth mewngofnodi, e-bostiwch dysguadatblygu@sirgar.gov.uk yn rhoi manylion y mater, a bydd un o'r tîm yn gallu cefnogi. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost gwaith arnynt (neu rif Yswiriant Gwladol os nad oes gennych gyfeiriad e-bost gwaith) er mwyn adnabod eich cofnod.
Rwy'n rheolwr, ond mae’r aelodau tîm sy'n ymddangos pan rwy’n clicio ar yr eicon Pobl yn anghywir. Beth i’w wneud?
Mae Thinqi yn cael gwybodaeth am eich tîm yn uniongyrchol o ResourceLink, felly mae'n bwysig diweddaru'r wybodaeth honno, nid yn unig ar gyfer Thinqi, ond hefyd fel eich bod yn gweld aelodau cywir o’ch tîm yn MyView. Cysylltwch â resourcelink@sirgar.gov.uk am gefnogaeth os oes unrhyw anghysondebau.
Rwy'n rheolwr ac rwyf wedi recriwtio rhywun sy'n trosglwyddo o swydd arall o fewn y cyngor. Oes angen iddyn nhw gael mynediad gwahanol i Thinqi?
Na. Unwaith y bydd y ffurflen drosglwyddo wedi'i phrosesu a bod ResourceLink wedi'i diweddaru gyda manylion y swydd newydd a’r rheolwr llinell, bydd Thinqi yn diweddaru'r manylion hyn yn awtomatig dros nos. Sylwch na fydd y manylion yn newid ar Thinqi cyn y dyddiad cychwyn yn y rôl newydd.
Rwy'n rheolwr ac wedi recriwtio aelod newydd o'r tîm sy'n newydd i’r cyngor. Sut ydw i'n gofyn am fynediad i Thinqi?
Mae Thinqi yn cael gwybodaeth am eich tîm yn uniongyrchol gan ResourceLink, felly mae'n bwysig bod y ffurflen gychwyn yn cael ei chyflwyno'n brydlon i'w phrosesu. Os bydd gan yr aelod newydd o'r tîm gyfeiriad e-bost gwaith, cofiwch y bydd angen i chi hefyd ofyn am fynediad i ddefnyddiwr newydd gan ddefnyddio Hunan Wasanaeth TGCh ar eich bwrdd gwaith. Unwaith y bydd yr elfennau hyn wedi'u cwblhau, bydd Thinqi yn cael y wybodaeth gan ResourceLink ac yna'n creu'r cyfrif yn awtomatig (hyd at uchafswm o 7 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cychwyn). Bydd Dysgu Hanfodol yn cael ei neilltuo'n awtomatig i'r cyfrif. Byddwch hefyd yn gallu neilltuo dysgu penodol ar gyfer y rôl unwaith y bydd y cyfrif yn weithredol.
A yw Thinqi ar gael i holl staff y Cyngor, gan gynnwys gweithwyr dros dro a gweithwyr trwy asiantaeth?
Ydy. Mae Thinqi yn cael ei gyflwyno ar draws pob adran o'r Cyngor a bydd ar gael i'r holl staff.
Mae'r e-ddysgu rwy’n ceisio ei gwblhau yn rhoi neges camgymeriad. A ddylwn eu adael a cheisio eto ddiwrnod arall?
Mae eich adborth yn amhrisiadwy i ni, felly rhowch wybod i'r tîm dysgu a datblygu. Bydd yn ein helpu i'ch cynorthwyo'n gyflymach os gallwch gynnwys sgrin lun o'r gwall yn eich e-bost.
Rwyf wedi gorffen dysgu mewn swydd flaenorol. A gaf i ychwanegu hwn at fy nghofnod dysgwr?
Gallwch. Fel dysgwr, gallwch ychwanegu dysgu blaenorol drwy system Thinqi. Gellir cael mynediad at hyn drwy'r eicon Fy Nghofnod Dysgu a'r tab Cofnod DPP. Gellir cofnodi manylion y dysgu blaenorol ac unwaith y cânt eu cadarnhau, rhoddir sbardun awtomatig i'ch Rheolwr i'w awdurdodi.
Pam nad yw fy holl ddysgu blaenorol yn dangos ar Thinqi?
Bydd unrhyw ddysgu hanfodol yr ydych eisoes wedi'i gwblhau yn cael ei arbed a'i drosglwyddo i Thinqi o fewn 24 awr ar ôl i'ch mynediad gael ei actifadu. Bydd cofnodion dysgu adrannol / penodol pellach yn dilyn wrth i ni ymgysylltu â gwasanaethau a thimau am fanylion o'r fath. Cofiwch y gallwch hefyd gael gafael ar wybodaeth am ddysgu blaenorol trwy Hyfforddiant yn MyView.
Rwyf wedi cwblhau modiwl e-ddysgu, ond nid yw'r bathodyn wedi'i ddyfarnu. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi clicio ar 'Cychwyn Bathodyn' er mwyn cofrestru ar y bathodyn. Yna bydd Thinqi yn cydnabod eich bod wedi cwblhau'r bathodyn ac yna yn dyfarnu'r bathodyn.
Rydym yn darparu hyfforddiant i staff yn ein hadran a hoffem siarad â rhywun am leoli'r hyfforddiant hwnnw ar Thinqi. Gyda phwy ydw i'n cysylltu?
E-bostiwch dysguadatblygu@sirgar.gov.uk gyda manylion a bydd aelod o'n tîm Dysgu Digidol yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.
Hoffem ddatblygu darn o Ddysgu Digidol newydd i'w leoli ar Thinqi. Ble ydyn ni'n dechrau?
E-bostiwch dysguadatblygu@sirgar.gov.uk gyda manylion a bydd aelod o'n tîm Dysgu Digidol yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Dysgu a Datblygu
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu