Hyfforddi a Mentora
Diweddarwyd y dudalen: 08/05/2024
Beth yw Hyfforddi a Mentora?
Hyfforddiant
“Mae hyfforddi yn helpu unigolyn i gynyddu ei berfformiad i'r eithaf. Mae'n ei helpu i ddysgu yn hytrach nag yn eu haddysgu." Timothy Gallwey (1975)
Rwy'n hoff iawn o gymharu hyfforddiant â cherbyd, gan ei fod yn mynd â chi o'r man presennol i'r man yr hoffech ei fod.
Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, rydym yn gweld gwerth mewn hyfforddiant ffurfiol 1-1 yn ogystal â hyfforddiant llai ffurfiol bob dydd megis sgyrsiau am hyfforddiant.
Mae gennym rwydwaith o hyfforddwyr cymwys a fydd yn gweithio gyda chi i fynd i'r afael â'ch cyfyng-gyngor/materion neu'n eich helpu i gyflawni eich amcanion, boed yn bersonol neu'n rhan o dîm.
Nid yw'n angenrheidiol i hyfforddwr wybod pob dim am eich maes gwaith. Mae'n rhaid i Hyfforddwr fod yn arbenigwr mewn hyfforddi fel y gall wrando a gofyn y cwestiynau anuniongyrchol perthnasol i chi er mwyn dod o hyd i atebion a fydd yn gweithio ichi.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant er mwyn ichi ddysgu'r sgil o gynnal sgwrs hyfforddi. Bydd cyfathrebu yn y dull hwn yn eich galluogi i annog eraill i fod yn atebol am eu cyfrifoldebau a dibynnu llai arnoch chi.
Mentora?
Mentor yw rhywun sydd â mwy o brofiad neu wybodaeth mewn tasg neu rôl benodol. Bydd yn arwain ac yn cefnogi'ch datblygiad drwy ddarparu cyngor uniongyrchol.
Mae'n bosibl y bydd mentor yn defnyddio dull arddull hyfforddi os yw'n briodol, ond bydd yn cynnig cyngor uniongyrchol yn ôl yr angen.
Os hoffech gael gwybod rhagor am sut y gall hyfforddi eich helpu chi i dyfu ac i ddatblygu yn eich gyrfa, neu os oes gennych ddiddordeb gweithio gyda mentor ar faes penodol o waith, cysylltwch â Dysgu a Datblygu.
Dysgu a Datblygu
Digwyddiad Dathlu Dysgwyr 2024
Delweddau'r Digwyddiad
Fentor Arweinyddiaeth
Thinqi
Cwestiynau Cyffredin Thinqi
Niwroamrywiaeth
Datblygu eich sgiliau digidol
- Cyrsiau Coleg Sir Gâr
- Cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes gyda Coleg Gŵyr Abertawe
- Fframwaith Lefelu Sgiliau Digidol
Iaith Cymraeg
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Adnoddau Gweithio Hybrid
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu