Mentoriaid Digidol

Diweddarwyd y dudalen: 02/09/2024

Mae Mentoriaid Digidol yn helpu i ddatblygu hyder a sgiliau pobl o ran defnyddio technoleg ddigidol. Rydyn ni angen Mentoriaid Digidol i ysbrydoli pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol a'u cefnogi trwy eu camau cyntaf gan ddefnyddio cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, a'r rhyngrwyd.

O roi 5 munud o'ch amser yn unig i gefnogi rhywun â'u sgiliau digidol, gallai'r unigolyn hwnnw gefnogi dinasyddion eraill Sir Gaerfyrddin o ran eu sgiliau digidol nhw.

Mae ein Mentoriaid Digidol yn rhoi cymorth i gydweithwyr wella eu hyder o ran defnyddio technoleg yn y gwaith a gartref.

Nid yw bod yn Fentor Digidol yn golygu bod yn ‘arbenigwr digidol’, mae'n golygu bod yn dda gyda phobl. Bydd gennych amynedd, brwdfrydedd, y gallu i addasu a byddwch yn dda am wrando - byddwn yn eich helpu gyda'r gweddill! Mae angen dealltwriaeth sylfaenol o'r rhyngrwyd arnoch a sut i ddefnyddio ystod o ddyfeisiau. Os nad ydych yn gwybod sut i wneud rhywbeth ar-lein, bydd gennych y sgiliau i chwilio am ateb.

Mae Mentoriaid Digidol yno i helpu ac annog pobl i ddysgu, yn hytrach na gwneud popeth drostyn nhw. Mae angen i chi fod yn ymwybodol o ffiniau eich rôl, a pheidio â cheisio helpu gyda phethau nad ydych efallai'n gymwys i gynnig cymorth arnynt, megis materion cyfreithiol, ariannol neu iechyd.

Byddwch yn: Ni fyddwch yn:
  • Ysbrydoli pobl i roi cynnig arni
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision bod yn ddigidol
  • Cynyddu hyder pobl
  • Cadw cyfrinachedd
  • Parhau'n ddiduedd
  • Gweithio'n unol â pholisi a gweithdrefnau'r sefydliad

 

  • Gwneud pethau drostynt
  • Llenwi ffurflenni ar-lein pobl
  • Datrys pob ymholiad technegol
  • Rhoi cyngor nad ydych yn gymwys i'w roi

 

 

 

Yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, bydd gennych hefyd fynediad i:

  • Hyfforddiant Mentora gan Gymunedau Digidol Cymru
  • Sesiynau hyfforddi Dysgu a Datblygu o ran meddalwedd a sgiliau digidol newydd
  • Cymorth o ran datblygu eich sgiliau digidol presennol
  • Sianel Teams lle gallwch chi gadw mewn cysylltiad a dysgu oddi wrth eich gilydd
  • Cyfarfodydd galw heibio bob deufis i gasglu eich adborth.

Byddwch yn cael eich cefnogi a'ch cydnabod am eich amser a'ch gwasanaeth a byddwch yn rhan o'n Trawsnewid Digidol, gan lunio'r ffordd yr ydym yn gweithio yn y dyfodol.