Fentor Arweinyddiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2024

Beth am fod yn Fentor Arweinyddiaeth a Llunio'r Dyfodol

Ydych chi'n arweinydd angerddol a phrofiadol sy'n dymuno cael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun?

Ydych chi'n barod i rannu eich sgiliau a'ch profiad gydag eraill a'u helpu i dyfu a datblygu?

Rydym yn chwilio am fentoriaid brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n rhaglen fentora! Fel mentor, byddwch yn cael cyfle i:

  • Rhannu eich gwybodaeth a'ch profiad gydag eraill.
  • Helpu i lunio dyfodol unigolyn talentog.
  • Datblygu eich sgiliau arwain a chyfathrebu eich hun.
  • Ehangu eich rhwydwaith a'ch cysylltiadau.
  • Cael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun.
  • Cael effaith gadarnhaol ar ddarparu gwasanaethau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin

Beth ydym ni'n chwilio amdano:

  • Arweinwyr profiadol
  • Brwdfrydedd dros fentora a helpu eraill i dyfu.
  • Meddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu ac ymwneud ag eraill
  • Gallu ymrwymo i gyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd (fel y cytunwyd rhwng mentor a mentorai).
  • Hyblygrwydd a'r gallu i addasu

Manteision dod yn fentor:

  • Cyfle i roi rhywbeth yn ôl a chael effaith gadarnhaol.
  • Cyfle i ddatblygu eich sgiliau arwain a chyfathrebu eich hun.
  • Ehangu eich rhwydwaith a'ch cysylltiadau
  • Cael boddhad personol o helpu eraill i dyfu.
  • Cyfle i gael ymwybyddiaeth o brofiadau ac anghenion dysgu pobl eraill a fydd o bosibl yn cynnig 'llygaid ffres' a syniadau newydd
  • Cydnabyddiaeth fel cyfrannwr gwerthfawr i'r rhaglen fentora
  • Hyfforddiant llawn i gefnogi'ch mentorai yn y ffordd orau bosibl

Trosolwg o'r Rhaglen Fentora:

Mae ein rhaglen fentora wedi'i chynllunio i gysylltu gweithwyr proffesiynol profiadol ag unigolion sy'n awyddus i ddysgu a thyfu.

Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro o amgylch cyfarfodydd a sgyrsiau rheolaidd, lle bydd mentoriaid yn rhoi arweiniad, cymorth ac adborth i'w mentoreion.

Mae ein rhaglen yn agored i unigolion o gefndiroedd amrywiol ac rydym yn ymdrechu i greu cronfa amrywiol o fentoriaid a mentoreion.

Sut i wneud cais:

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn fentor, cyflwynwch eich cais erbyn 19 Gorffennaf 2024

 Mae angen y canlynol arnom:

  • Cyflwyniad byr (200-250 gair) yn tynnu sylw at eich profiad, eich arbenigedd, a pham mae gennych ddiddordeb mewn bod yn fentor
  • Geirda oddi wrth eich rheolwr

Cyflwynwch eich cais i Learning and Development LearningandDevelopment@carmarthenshire.gov.uk

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!

Ymunwch â'n Rhaglen Fentora heddiw!

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun wrth ddatblygu eich sgiliau a'ch rhwydwaith eich hun.

Gwnewch gais nawr i fod yn fentor a helpu i lunio dyfodol Cyngor Sir Caerfyrddin