Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2025

Disgrifiad:

Ymunwch â'n tîm o Hwyluswyr Mewnol i'n helpu i gael gwybod mwy am brofiad ein staff o weithio ar draws CSC.

Mae ein trydydd Arolwg Staff blynyddol newydd gau ac, er bod y canlyniadau wedi bod yn gyson, hoffem gael rhagor o wybodaeth am y meysydd sy'n rhoi llai o foddhad i'n staff ac sydd felly'n effeithio ar ysgogiad.

Mae gennym dîm talentog a hyfforddwyd yn flaenorol yn Adolygwyr Mewnol i gefnogi ein gwaith i gynnal y Safon Buddsoddwyr mewn Pobl. Hoffem recriwtio yn fwy o bobl i ymuno â'r tîm hwn er mwyn 

cynnal yr adolygiad. Fel rhan o'r tîm, cewch gyfle i gwrdd â grwpiau o staff o adrannau gwahanol i ddysgu mwy am eu profiad a sut maen nhw'n teimlo fel aelod o staff.

Yna byddwn yn gweithio fel grŵp i gasglu'r adborth hwn a gwneud argymhellion i'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Os oes gennych unrhyw syniadau am brosiectau yr hoffech eu creu fel rhan o'r rhaglen STEP, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Dyddiad: Amrywiol

Ymrwymiad: Yr hyn sy'n cyfateb i ½ diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 6 wythnos (gan gynnwys hyfforddiant). Cyfartaledd yw hyn, a bydd yr ymrwymiad gwirioneddol yn amrywio o wythnos i wythnos.

Lleoliad:  Ni ofynnir i chi hwyluso yn eich maes eich hun.

Datblygu: Cyn dechrau'r rôl, byddwch yn cael cynnig datblygiad yn y meysydd canlynol:

  • Sgiliau hwyluso
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Ymgysylltu â'r staff

Rhagor o fanylion