Hyfforddi a Mentora

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2025

Bydd hyfforddwr neu fentor yn gweithio gyda chi ar sail un i un i dargedu'r meysydd lle byddech yn gwerthfawrogi cymorth fwyaf.

Beth yw Hyfforddi a Mentora?

Mae hyfforddi yn helpu unigolyn i gynyddu ei berfformiad i'r eithaf. Mae'n ei helpu i ddysgu yn hytrach na'i addysgu." Timothy Gallwey (1975).

Mae gennym rwydwaith o hyfforddwyr cymwys a fydd yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb neu i'ch helpu i gyflawni eich nodau.

Ni fydd eich hyfforddwr yn dod o'ch maes gwaith, ond bydd yn arbenigwr mewn hyfforddi, felly bydd yn gwrando ac yn gofyn cwestiynau anghyfarwyddol er mwyn canfod atebion a fydd yn gweithio i chi.

Mentora

Fel rhywun sydd â mwy o brofiad mewn tasg neu rôl benodol, bydd mentor yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Bydd mentor yn defnyddio dull hyfforddi os yw'n briodol, ond bydd yn rhannu ei brofiad pan fydd angen.

Beth yw manteision gweithio gyda hyfforddwr?

Mantais fawr hyfforddi yw y byddwch yn gweld canlyniadau cyflym a chadarnhaol. Mae hyfforddi yn broses gyfranogol a fydd yn eich helpu i ddysgu a mabwysiadu arferion newydd.

Mae manteision hyfforddi yn cynnwys:

  • Gwella eich perfformiad a'ch nodau unigol
  • Cynyddu eich gallu i ddod o hyd i'ch atebion eich hun i faterion penodol
  • Eich galluogi i gymryd mwy o berchnogaeth a chyfrifoldeb 
  • Datblygu eich hunanymwybyddiaeth
  • Gwella eich sgiliau neu'ch ymddygiad
  • Eich helpu i gael mwy o eglurder o ran rolau ac amcanion

Rhagor o fanyllion