Mentor Cymraeg
Diweddarwyd y dudalen: 10/06/2024
Beth yw Mentora:
Mae mentora yn fuddiol iawn i unigolion i'w helpu i ddysgu, i dyfu ac i wella eu sgiliau. Mae'n "berthynas rhwng dau berson gyda'r nod o ddatblygiad proffesiynol a phersonol." (Mindtools). Mae'n berthynas hirdymor lle canolbwyntir ar gefnogi twf a datblygiad unigolion.
Fel awdurdod rydym yn darparu cymorth mentora mewn gwahanol feysydd gan gynnwys y Gymraeg. Mae mentora Cymraeg yn rhoi cymorth i unigolion ar eu taith dysgu Cymraeg i gynyddu hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle gyda chydweithwyr, cleientiaid a chwsmeriaid.
Mae gan unigolion fentoriaid Cymraeg am wahanol resymau megis:
- Magu mwy o hyder i siarad mwy o Gymraeg
- Cymorth ochr yn ochr â dysgu Cymraeg
- Ymarfer siarad ag eraill
Rôl mentor Cymraeg:
Yn gyntaf oll, does dim angen i chi fod yn arbenigwr 'Cymraeg' i fod yn fentor iaith Gymraeg. Os ydych chi'n gallu siarad Cymraeg ag eraill, dyna'n syml oll rydyn ni'n gofyn amdano. Felly ydy, mae dy Gymraeg di'n ddigon da! Rydym eisiau siaradwyr Cymraeg ac yn ysbrydoli ac annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau gwaith o ddydd i ddydd, gan wneud hyn yn dasg lai brawychus i'n staff.
Mae llawer o staff weithiau'n teimlo eu bod nhw'n cael eu barnu, cael ofn, neu'n poeni am ddefnyddio'r iaith o flaen eraill. Fel mentoriaid Cymreig, gallwch helpu i leihau'r rhwystrau hyn drwy roi cymorth i staff fagu hyder trwy greu cyfleoedd iddyn nhw, yn syml, gael sgwrs Gymraeg.
Fel mentor Cymraeg, rydych chi'n cefnogi pobl sy'n dysgu Cymraeg i ymarfer yr iaith, neu gallwch helpu pobl i gynyddu eu hyder i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle, gyda chwsmeriaid neu gleientiaid. Hefyd, dyma gyfle gwych i helpu eraill, i ddatblygu sgiliau newydd a chael profiadau newydd i wella'ch CV
Gall rhoi unrhyw faint o amser, o 10 munud yr wythnos helpu staff i deimlo'n fwy hyderus i ddefnyddio'r iaith. Felly gyda'n gilydd, gallwn helpu staff gyda'r hyn rydyn ni'n ei wneud orau, dim ond cael sgwrs.
- Amynedd
- Brwdfrydig a chwilfrydig
- Sgiliau gwrando
- Cefnogol a chymwynasgar i eraill
- Agwedd bositif
- •Dibynadwy
Mae mentoriaid Cymraeg yn cefnogi pobl ar eu taith dysgu Cymraeg, os ydynt yn cychwyn o'r dechrau, angen adnewyddiad neu eisiau cynyddu hyder mewn amgylchedd diogel. Mae mentoriaid yn gwneud gwaith anhygoel i annog staff i ymarfer yr iaith ar sail 1-1 ac yn y pen draw cynyddu hyder i fwy o'r iaith ar draws yr Awdurdod.
Bydd disgwyl i chi:
- Helpu ac ysbrydoli eraill i 'roi cynnig arni'
- Cefnogi eraill gyda'u datblygiad Cymraeg
- Codi ymwybyddiaeth o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
- Codi hyder pobl
- Cadw cyfrinachedd
- Aros yn ddiduedd
- Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliadau
Ni fydd disgwyl i chi:
- Dysgu Cymraeg
- Bod yn 'arbenigwr Cymraeg'
- Cywiro eu gramadeg
- • Gwneud ar eu cyfer
Mae dod yn fentor Cymraeg yn gyfle gwych i ddatblygiad personol, drwy fod yn rhan o daith rhywun i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddwch yn derbyn hyfforddiant gan y cynghorydd D&D ac yn derbyn diweddariadau rheolaidd gan sianel timau Mentoriaid Cymraeg.
Dysgu a Datblygu
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu