Pa lefel ydych chi?
Diweddarwyd y dudalen: 10/06/2024
Pa lefel ydych chi?
Gallwch edrych ar lefelau iaith yr Awdurdodau isod i ddarganfod lefel eich iaith.
Fel arall, os ydych yn ansicr neu os hoffech gael asesiad anffurfiol, cwblhewch y ffurflen archebu hon.
Cymerwch olwg ar y llwybrau amrywiol sydd ar gael i'ch helpu i gyrraedd y lefel nesaf. Cysylltwch â Kelly Morris, Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu’r Gymraeg i drafod eich opsiynau ymhellach.
Gwrando a Siarad
- Ynganu enwau llefydd ac enwau personol yn gywir.
- Cyfarch cwsmeriaid.
- Agor a chloi sgwrs.
Darllen
- Deall testun byr ynglŷn â phwnc cyfarwydd pan wedi ei gyfleu mewn iaith syml, e.e. arwyddion elfennol, cyfarwyddiadau syml, deall cynnwys agenda.
Ysgrifennu
- Ysgrifennu enwau personol, enwau llefydd, defnyddio teitlau swyddi ac enwau adrannau’r Cyngor yn gywir
Gwrando a Siarad
- Deall prif neges y sgwrs
- Deall negeseuon syml ar batrymau arferol, e.e. ymholiadau syml, ,
- Cyfleu gwybodaeth elfennol a chyfarwyddiadau syml.
- Agor a chau sgwrs yn ddwyieithog.
Darllen
- Deall y rhan fwyaf o adroddiadau byrion a chyfarwyddiadau arferol o fewn arbenigedd y gwaith, â bod digon o amser wedi ei ganiatáu.
Ysgrifennu
- Llunio neges fer syml ac anffurfiol i gydweithiwr neu gyswllt cyfarwydd
Gwrando a Siarad
- Deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd
- Cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
- Cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
Darllen
- Deall y rhan fwyaf o’r adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth y byddai disgwyl eu trafod yng nghwrs arferol y gwaith.
Ysgrifennu
- Llunio negeseuon ac adroddiadau anffurfiol at ddefnydd mewnol.
Gwrando a Siarad
- Cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd
- Deall gwahaniaethau cywair a thafodiaith.
- Dadlau o blaid ac yn erbyn achos penodol.
- Cadeirio cyfarfodydd ac ateb cwestiynau o’r Gadair yn hyderus
- Darparu gwasanaeth yn rhugl ac yn naturiol
Darllen
- Deall gohebiaeth ac adroddiadau ffurfiol
Ysgrifennu
- Llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd gyda chymorth golygyddol.
Gwrando a Siarad
- Cyfrannu’n rhugl a hyderus yng nghyswllt pob agwedd ar y gwaith beunyddiol, gan gynnwys trafod a chynghori ar faterion technegol, arbenigol neu sensitif.
- Cyfrannu I gyfarfodydd a darparu cyflwyniadau yn rhugl a hyderus..
Darllen
- Deall adroddiadau, dogfennau ac erthyglau y byddai disgwyl eu darllen yng nghwrs arferol y gwaith, gan gynnwys cysyniadau cymhleth a fynegir mewn iaith astrus.
Ysgrifennu
- Llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost, llenyddiaeth hysbysrwydd a chofnodion i safon dderbyniol gyda chymorth cymhorthion iaith
Dysgu a Datblygu
Cyfleoedd Dysgu Corfforaethol
- Hyfforddi a Mentora
- Cyfathrebu Effeithiol
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyllid
- Iechyd, Diogelwch a Llesiant
- Technoleg. Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Effeithiolrwydd Personol
- Gweithdrefnau a Pholisiau
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru [RhDGGCC]
- Cynnig Rhagweithol
- Cynllunio Asesu a Gofal
- Rhaglen Sefydlu Cymunedol
- Hyfforddiant Craidd
- Dementia
- Unigolion sy'n Defnyddio Gwasanaethau a Gofalwyr
- Arweinyddiaeth A Rheolaeth
- Iechyd Meddwl
- Arfer Gorau Gwaith Cymdeithasol
- Cymwysterau
Cwestiynau Cyffredin
Mwy ynghylch Dysgu a Datblygu