Prosiect Trawsnewid

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2025

Disgrifiad:

Fel rhan o'n Strategaeth Drawsnewid, rydym yn chwilio am bobl o

bob rhan o'r sefydliad i weithio gyda'n Tîm Trawsnewid ar brosiectau a fydd yn arwain at newid cadarnhaol cynaliadwy ar draws y sefydliad.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau wrth gyfrannu at amcanion strategol y sefydliad.

Gall y prosiectau fod yn eich maes chi, neu gallech fanteisio ar y cyfle i weithio gyda thîm cwbl newydd, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn gallu eu defnyddio yn eich swydd bresennol neu mewn unrhyw swyddi yn y dyfodol. Darperir cymorth gan y Tîm Trawsnewid, a byddwch yn cael mynediad at hyfforddwr neu fentor yn y gweithle.

Os oes gennych unrhyw syniadau am brosiectau yr hoffech eu creu fel rhan o'r rhaglen STEP, cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Dyddiad:

Amrywiol

Ymrwymiad: 

Bydd yr ymrwymiad yn amrywio yn dibynnu ar eich prosiect. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda'ch rheolwr llinell i sicrhau eich bod yn cael cymorth i gwblhau'r gwaith sydd ei angen ochr yn ochr â'ch swydd bresennol.

Lleoliad:

Amrywiol

Datblygu: 

Yn dibynnu ar eich prosiect, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd a allai gynnwys:

  • Rheoli Newid
  • Rheoli Prosiectau
  • Dirprwyo
  • Ysgrifennu Adroddiadau

Rhagor o fanylion