Rwy'n falch o'ch cyflwyno i'n Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP) newydd, sy'n gyfle cyffrous i chi gymryd rhan wrth drawsnewid ein sefydliad.
Fel y gwyddoch, mae ein sefydliad wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf ac mae mwy o'n blaenau ni. Credaf yn gryf fod gennym y wybodaeth, y sgiliau a'r dalent yn ein sefydliad i wynebu'r heriau hyn a pharhau i wella.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan yn yr atebion hynny. O gyfrannu at gyflawni prosiect gan ein tîm Trawsnewid, i ddarparu hyfforddiant neu fentora, bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i chi fod wrth wraidd y newid.
Fel rhan o'r rhaglen, cewch eich cefnogi i ddysgu, myfyrio a thyfu, drwy gyfleoedd dysgu fel; Mentora, Hyfforddi, Dysgu ymarferol ac Dilyn a dysgu.
Byddaf yn annog eich rheolwyr i'ch cefnogi orau y gallant, er mwyn i chi ddatblygu'ch sgiliau gan fod yn rhan o rai prosiectau trawsnewid pwysig.
Edrychaf ymlaen at glywed am eich llwyddiant.
Wendy Walters
Prif Weithredwr