Sanclêr
Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2023
Yn Sanclêr mae gennym ystafelloedd cyfarfod/hyfforddiant yng Nghanolfan Hyfforddiant Griffith Jones ac yn y Ganolfan Hamdden. Porwch drwy ein hystafelloedd cyfarfod ym mhob lleoliad am ragor o wybodaeth ynglŷn â'u maint a'u cyfleusterau.
Sut mae archebu ystafell
Archebir ystafelloedd drwy ddefnyddio Outlook a gallwch wirio pa ystafelloedd sydd ar gael a threfnu eich cyfarfod yn gyflym ac yn hwylus. Mae gan bob ystafell gyfarfod ac ystafell hyfforddiant eu hunaniaeth eu hunain ar galendr Outlook. Er mwyn dod o hyd i ystafell gyfarfod yn llyfr cyfeiriadau Outlook, rhoddwyd "Ystafell Gyfarfod" o flaen lleoliad ac enw pob un.
Bydd angen ichi archebu’n uniongyrchol ar gyfer ystafelloedd cyfarfod yn Y Gât. Rhoddir manylion cyswllt yng ngwybodaeth yr ystafell.
Mewn adeiladau lle darperir yr ystafelloedd cyfarfod yn fasnachol, fe fydd archebion masnachol yn cael blaenoriaeth bob amser.
Lle bo'n bosibl, defnyddiwch ystafelloedd sy'n gweddu o ran maint i'r niferoedd a fydd yn bresennol. Cofiwch hefyd fod gan y rhan fwyaf o ystafelloedd gysylltiadau TG a cheir cyfarpar cyfrifiadurol mewn rhai ohonynt, felly mae modd eu harchebu ar gyfer gweithio ystwyth fel nad oes angen teithio’n ôl i'r man gweithio arferol pan fyddwch yn gweithio y tu hwnt i'ch swyddfa.
Sut i ganslo ystafell
Os oes angen canslo cyfarfod cofiwch wneud hyn drwy Outlook. Bydd hyn yn hysbysu gweinyddwr yr ystafell yn ogystal â'r mynychwyr eraill i gyd. Trwy wneud hyn bydd modd i'r ystafell fod ar gael i eraill ei defnyddio.
Ystafelloedd Cyfarfodydd
Caerfyrddin
- Neuadd y Sir
- 3 Heol Spilman
- 8 Heol Spilman
- Parc Dewi Sant
- Canolfan Hamdden Caerfyrddin
- Llyfrgell Caerfyrddin
- Canolfan Addysg Caerfyrddin
- Canolfan Fowlio Caerfyrddin
- Canolfan Datblygu Gwledig
- Parc Myrddin
Llanelli
Mwy ynghylch Ystafelloedd Cyfarfodydd