Cefnogaeth Ac Ymrwymiad

Diweddarwyd y dudalen: 29/05/2023

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Byddwn ni'n ymrwymo i ariannu a chefnogi datblygiadau yn y Gymraeg hyd at y lefel sydd ei angen ar gyfer eich rôl. Mae dysgu uwchben y lefel hon yn cael ei ystyried yn ddatblygiadol a byddwn yn cefnogi hyn lle bo modd.

Mae gan bob swydd o fewn yr awdurdod lefel iaith sy'n benodol i'r rôl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r holl staff i gyrraedd isafswm Lefel 1 yn y Gymraeg, a staff sy'n wynebu cwsmeriaid i Lefel 3. Gan ein bod wedi ymrwymo i'ch cefnogi ar eich taith i ddysgu Cymraeg, felly mae hawl gyda chi i ddatblygu'r sgiliau hyn yn ystod oriau gwaith.

Isod mae amlinelliad o'r disgwyliadau oddi wrthoch fel dysgwr, eich rheolwr llinell a’r cyngor fel eich cyflogwr. Cyfeiriwch at y Polisi Datblygu Sefydliadol am fwy o wybodaeth.

  • Mynychu 70% o'r dosbarthiadau ac o leiaf un o'r 4 sesiwn ddiwethaf
  • Ymrwymo i bob agwedd ar y rhaglen ddysgu
  • Gweithredu fel cynrychiolydd Cyngor Sir Caerfyrddin o hyd
  • Trafod a chwblhau'r log dysgu gyda'ch rheolwr
  • Cwblhau rhyw fath o asesiad ar ddiwedd y cwrs
  • Siarad â'ch rheolwr neu'ch tiwtor os bydd unrhyw broblemau'n codi
  • Dechrau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle gyda chwsmeriaid a chydweithwyr ble mae’n bosib
  • Eich cefnogi chi yn llawn i gwblhau'r cwrs yn ystod oriau gwaith
  • Trafod eich cynnydd a’ch taith ‘Dysgu Cymraeg’ yn ystod eich 1-1
  • Monitro eich cynnydd a'ch gwelliannau trwy gytundebau dysgu (os oes angen)
  • Yn eich galluogi i gymryd 1 diwrnod o gwyliau astudio fesul arholiad
  • Yn eich annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle gyda chwsmeriaid a chydweithwyr
  • Gweithio'n agos gyda'r darparwyr Cymraeg i fonitro'ch cynnydd
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth i staff a rheolwyr i'w cefnogi i gefnogi dysgu
  • Asesu eich lefel os a phan fo angen
  • Ariannu eich cwrs Cymraeg ar yr amod eich bod yn mynychu 70% o'r cwrs. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at ad-daliad adrannol
  • Rheoli a chynghori ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i wneud y mwyaf o'ch dysgu
  • Rhoi mentor i chi os oes angen
  • Gwerthuso effaith dysgu ar y gweithlu a gweithredu gwelliant lle bo angen
  • Trefnu taliad am eich gwerslyfrau cwrs Cymraeg os oes angen un