Digwyddiadau

Diweddarwyd y dudalen: 29/05/2023

Mae nifer o staff y Cyngor wedi sylwi nad ydyn nhw'n cael cymaint o gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg nawr nad ydynt bellach yn gweithio yn bennaf yn adeiladau'r Cyngor. Mae llai o gyfleoedd i siarad Cymraeg gyda staff eraill dros goffi, yn y gegin neu yn y coridorau. Er mwyn cefnogi defnydd ein staff, mae'r Cyngor wedi sefydlu cyfres o ddigwyddiadau misol ar-lein i roi cyfle i staff y Cyngor glywed a defnyddio'r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Yn dilyn arolwg staff, dewiswyd yr enw Clwb Clebran ar gyfer y gyfres, sy'n cyfleu awyrgylch 'sgwrsio' bwriadedig ag anffurfiol

Bydd y digwyddiadau'n cynnwys sgyrsiau am chwaraeon, bwyd, ffilmiau, gwyliau, cwisiau a llawer mwy ac mae'n gyfle i staff gynnal eu sgiliau Cymraeg drwy sôn am bethau sydd ddim yn ymwneud â'r gwaith. Cadwch lygad am y Clwb Clebran ar dudalennau 'Beth sy 'Mlaen' ar fewnrwyd.

Gobeithiwn y bydd Clwb Clebran yn annog staff i gadw eu hyder yn eu sgiliau Cymraeg ac y bydd hyn yn trosglwyddo'n naturiol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon i'n defnyddwyr

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn cynnal digwyddiadau amrywiol, edrychwch ar eu tudalen am y wybodaeth ddiweddaraf

Edrychwch ar y calendr hwn ar gyfer digwyddiadau sy'n digwydd yn yr ardal