Cymorth Cyntaf

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Bydd y dolenni cyswllt Cymorth Cyntaf yn ymdrin â'r holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i weithio mewn gwasanaethau rheng flaen.

Darllenwch yr holl wybodaeth a ddarperir ar y dolenni cyswllt isod ac mae croeso i chi lawrlwytho'r ddau ap sydd ar gael ar y bloc olaf i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes angen i chi rhoi triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), dylech gynnal asesiad risg a mabwysiadu rhagofalon priodol ar gyfer rheoli heintiau.

Lle bo'n bosibl, argymhellir nad ydych yn cyflawni anadliadau achub na dadebru ceg wrth geg; dylech gywasgu'r frest yn unig. Mae'r Canllawiau Resuscitation Council (DU) 2010 ar gyfer Cymorth Bywyd Sylfaenol yn nodi bod astudiaethau wedi dangos y gallai cywasgiadau i'r frest fod mor effeithiol ag awyru a chywasgu ar y cyd yn ystod y munudau cyntaf ar ôl ataliad ar y galon oherwydd diffyg ocsigen.

Os penderfynir cyflawni dadebru ceg wrth geg yn ystod ataliad ar y galon oherwydd diffyg ocsigen, defnyddiwch darian wyneb dadebru lle bo ar gael.

Os ydych wedi cyflawni dadebru ceg wrth geg, nid oes unrhyw gamau ychwanegol i'w cymryd heblaw am fonitro eich hun o ran symptomau posibl COVID-19 dros y 10 diwrnod dilynol. Os byddwch yn datblygu symptomau o'r fath, dylech ddilyn y cyngor ar beth i'w wneud ar wefan y GIG.

Gellir gweld y canllawiau llawn ar wefan gov.uk.

Mae croeso i chi gysylltu â Dysgu a Datblygu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch