Gofal diwedd oes

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Fel rhan o'ch rôl, efallai y gofynnir i chi ddarparu gofal diwedd oes i unigolion.

Drwy'r fideo hyfforddiant hwn, ein nod yw gwella eich gwybodaeth am yr hyn sy'n gysylltiedig â darparu gofal diwedd oes i bobl, fel y gall staff hyderus a chymwys ddarparu gofal o ansawdd uchel. 

  • Ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt
  • COVID 19 a'r gweithdrefnau i'w dilyn
  • Rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal i unigolion yn ystod gofal lliniarol
  • Arferion gofal diwedd oes a gwerthoedd gofal cymdeithasol i'w dilyn
  • Sgiliau cyfathrebu a chael sgyrsiau anodd
  • Gofal y geg, gofal y croen a phwysigrwydd maeth
  • Rheoli poen a chael ystum cyfforddus
  • Deall gwahaniaethau ysbrydol ar ddiwedd oes
  • Effaith diwedd oes ar unigolion a'u teuluoedd
  • Strategaethau ymdopi a chymryd gofal fel gweithwyr gofal
  • Cynorthwyo o ran defodau olaf pan fydd unigolion yn marw
  • Gwasanaethau Cymorth ar gael