Canllawiau i Reolwyr

Diweddarwyd y dudalen: 13/03/2025

Fel cyflogwr, mae'n ofynnol i ni o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch 1974 ddiogelu Iechyd, Diogelwch a Lles ein staff. Felly, mae'n rhaid i ni sicrhau bod eu hiechyd yn cael ei ystyried ar bob cam o'r broses.

Rolau Newydd

Pan fyddwch yn creu rôl newydd drwy OLEEO ac yn llywio'r broses recriwtio, mae'n hanfodol deall a fydd tasgau'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithiwr dderbyn monitro arolygu iechyd, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu rhag unrhyw effeithiau andwyol o ddod i gysylltiad â pheryglon yn ei rôl o'r diwrnod cyntaf. Mae Arolygu Iechyd hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn iach i gyflawni eu dyletswyddau.

I'ch cynorthwyo i nodi a oes angen Arolygu Iechyd ar y rôl, cwblhewch y daflen weithgareddau hon. Yn ogystal â llenwi'r ffurflen hon, mae'n bosibl y bydd angen trafodaeth wedyn gyda'ch Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch (iechydadiogelwch@sirgar.gov.uk) i sicrhau bod yr asesiadau risg perthnasol yn cael eu datblygu i'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal.

Gweithio gyda'r Nos

Os bydd y swydd newydd yn gofyn i weithwyr weithio'n rheolaidd o leiaf 3 awr yn ystod y nos (Cyfnod y nos yw 11pm i 6am). Wedyn mae Rheoliadau Amser Gweithio 1998 yn ei wneud yn ofynnol i'r Cyngor roi cyfle i weithwyr nos gael asesiad iechyd am ddim. Gellir cael mynediad at hyn drwy'r fewnrwyd: Arolygu Iechyd

Oedolion a Phlant Agored i Niwed

Os yw'r rôl newydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr weithio gydag oedolion neu blant sy'n agored i niwed, yna efallai y bydd gofyn iddynt ymgymryd â ffurflen sgrinio cyflogaeth newydd.

 

Proses atgyfeirio ar gyfer rolau presennol sy'n gofyn am Arolygu Iechyd

Os canfuwyd trwy asesiad risg bod gweithwyr angen Gwyliadwriaeth Iechyd, bydd angen i chi eu hatgyfeirio i weld y Nyrs Iechyd Galwedigaethol trwy gwblhau'r Daenlen Atgyfeirio Gwyliadwriaeth Iechyd (.xls) a'i hanfon yn ôl at: IechydGalwedigaethol@sirgar.gov.uk.

Bydd Gweinyddwyr Busnes Iechyd Galwedigaethol yn cysylltu â chi ac yn dyrannu slotiau apwyntiad sydd ar gael.

Bydd gofyn i chi gadarnhau a yw'r apwyntiadau hyn yn addas neu wneud unrhyw addasiadau ar gyfer cyflogeion na ellir eu rhyddhau ar gyfer y slotiau a neilltuwyd.

Ar ôl cytuno ar y slotiau, bydd hynny'n cael ei nodi ar y System Iechyd Galwedigaethol ac anfonir llythyrau apwyntiad lle bo'n briodol. Dewch i wybod mwy am eich apwyntiad.

Bydd llythyr Cadarnhau Iechyd yn cael ei anfon atoch cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Bydd dyddiadau’r profion nesaf yn cael eu trefnu a byddwn yn cysylltu â chi yn flynyddol/lle bo’n briodol ar gyfer adolygiad 

Rolau a Chyfrifoldebau

Dylai gweithwyr:

  • Cydweithredu trwy fynychu rhaglenni Arolygu Iechyd (os oes angen) er mwyn cyflawni dyletswyddau iechyd a diogelwch o dan y gyfraith.
  • Rhoi gwybod am unrhyw symptomau o salwch cyn gynted ag y maent yn sylwi arnyn nhw er mwyn cymryd camau cyflym i rwystro unrhyw niwed pellach.
  • Cymryd gofal rhesymol o iechyd a diogelwch eu hunain a phobl eraill y gallai eu gweithredoedd neu anweithredoedd yn y gwaith effeithio arnynt.
  • Rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion yn y trefniadau iechyd a diogelwch, hyd yn oed pan nad oes unrhyw beryglon amlwg, er mwyn i reolwyr gymryd camau i adfer hynny.

Dylai rheolwyr:

  • Fel sy'n rhesymol ymarferol, sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl weithwyr.
  • Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal a’u hadolygu’n rheolaidd a bod Systemau Gweithio’n Ddiogel yn eu lle.
  • Cynorthwyo gweithwyr i ddeall yr angen am Arolygu Iechyd yn ogystal â’u manteision, drwy egluro’r diben a’r broses.
  • Annog gweithwyr i gymryd rhan gadarnhaol a chydweithredu’n llawn yn y rhaglen Arolygu Iechyd, drwy egluro ei phwysigrwydd a’i pherthnasedd iddyn nhw. 

Dylai Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch:

  • Rhoi cyngor i chi a'ch cydweithwyr ynglŷn â gofynion asesiadau risg, Systemau Gweithio’n Ddiogel, ac arolygu iechyd.
  • Gyda’r rheolwyr, cynorthwyo’r uned Iechyd Galwedigaethol i sefydlu rhaglenni arolygu iechyd newydd neu eu haddasu.
  • Cynorthwyo rheolwyr i fonitro ac adolygu gofynion asesiadau risg, Systemau Gweithio’n Ddiogel, ac arolygu iechyd.

Dylai Ymarferwyr Iechyd Galwedigaethol:

  • Cynnal arolygu iechyd yn unol â phrotocolau a deddfwriaeth a chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
  • Rhoi cyngor i weithwyr ynglŷn â dilyn Systemau Gweithio’n Ddiogel, defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol priodol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn â’u hiechyd.
  • Rhoi gwybod i chi am unrhyw bryderon iechyd posibl a'ch atgyfeirio i’r ymarferydd meddygol priodol.