Dementia

Diweddarwyd y dudalen: 14/02/2024

Ar adegau o newid, tarfir i raddau ar fywyd a threfn arferol unigolyn sy'n byw gyda dementia, ond mae cadw cymaint â phosibl o bethau yn eu lle yn hanfodol.

Efallai y bydd yr unigolyn yn poeni nad yw wedi bod allan i wneud ei weithgareddau arferol nac wedi gweld pobl y bydden nhw'n eu gweld fel arfer, ac efallai eu bod yn ddryslyd.

Ar yr adeg hon, treuliwch ychydig o funudau i dawelu eu meddyliau (Mae cadw pellter ddiogel).  Mae hefyd yn bwysig eich bod yn ceisio neilltuo ychydig o'r amser rydych chi'n ei dreulio yn cefnogi'r unigolyn hwnnw i gyfnewid rhai adegau gwerthfawr - gellir cael syniadau yma

Os yw unigolion yn derbyn cymorth gofal cymdeithasol, efallai na fydd eu gofalwyr rheolaidd ar gael i'w cynorthwyo drwy'r amser. Os ydych yn cefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia am y tro cyntaf, gweler isod rhai fideos i'ch helpu i ddefnyddio'r dulliau cywir.

Os yw'r person rydych yn ei gynorthwyo wedi drysu ac mae gennych bryderon, mae'n BWYSIG eich bod yn rhoi gwybod am y rhain i'r goruchwyliwr, arweinydd y tîm neu'r swyddog cyswllt gwirfoddolwyr yr ydych yn gweithio o dan ei gyfarwyddyd.