Y Broses Atgyfeirio

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Mae gan eich rheolwr gyfrifoldeb i gwblhau asesiadau risg ar gyfer swyddi ac anfon gweithwyr i’r uned Iechyd Galwedigaethol os oes angen.

Gweithwyr newydd

Os ydych yn weithiwr newydd i’r awdurdod a bod rôl eich swydd yn tanlinellu bod angen arolygu iechyd arnoch, bydd hyn yn cael ei danlinellu gan y tîm Adnoddau Dynol ar ddechrau eich cyflogaeth gyda ni.

Yna, bydd yr uned Iechyd Galwedigaethol yn cysylltu â chi gydag apwyntiad cyn i chi ddechrau yn eich rôl.

Proses reoli atgyfeirio

Os yw eich rheolwr wedi nodi mewn Asesiad Risg bod angen Arolygu Iechyd arnoch, byddant yn eich atgyfeirio i weld Nyrs Iechyd Galwedigaethol.

Bydd Ysgrifennydd Meddygol Cynorthwyol (YMC) yn cydlynu â’ch rheolwr. Bydd y llefydd sydd ar gael yn cael eu rhoi i’ch rheolwr llinell. Gofynnir i’ch rheolwr roi enwau gweithwyr y gellir eu rhyddhau ar ddyddiadau/amseroedd penodol yn y slotiau a’i ddychwelyd i’r YMC.

Bydd YMC yn neilltuo lle i weithwyr ar y system Iechyd Galwedigaethol ac yn anfon llythyron apwyntiadau lle bo’n briodol. Gellir cael mwy o wybodaeth fan hyn ynglŷn â’ch apwyntiad.

Bydd adroddiad ‘Canlyniad yr Asesiad’ yn cael ei anfon at eich rheolwr o fewn 5 diwrnod gwaith.

YMC yn nodi dyddiadau’r prawf nesaf ac yn cysylltu â’r rheolwr yn flynyddol/lle bo’n briodol, ar gyfer adolygiad.

Rolau a Chyfrifoldebau

Dylai gweithwyr:

  • Gydweithio drwy fynychu rhaglenni Arolygu Iechyd (os gwelir bod angen) er mwyn sicrhau bod dyletswyddau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni o dan y gyfraith.
  • Rhoi gwybod am unrhyw symptomau o salwch cyn gynted â’ch bod yn sylwi arnyn nhw er mwyn cymryd camau cyflym i rwystro unrhyw niwed pellach.
  • Cymryd gofal rhesymol o iechyd a diogelwch eich hun a phobl eraill y gallai eich gweithredoedd neu eich anweithredoedd yn y gwaith effeithio arnynt.
  • Rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion yn y trefniadau iechyd a diogelwch, hyd yn oed pan nad oes unrhyw beryglon amlwg, er mwyn i’ch rheolwr gymryd camau i adfer hynny os oes angen.

Dylai rheolwyr:

  • Lle bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau iechyd, diogelwch a lles yr holl weithwyr.
  • Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal a’u hadolygu’n rheolaidd a bod Systemau Gweithio’n Ddiogel yn eu lle.
  • Cynorthwyo gweithwyr i ddeall yr angen am Arolygu Iechyd a’i fanteision drwy egluro’r diben a’r broses.
  • Annog gweithwyr i gymryd rhan gadarnhaol a chydweithio’n llawn yn y rhaglen Arolygu Iechyd, gan egluro pwysigrwydd a pherthnasedd y rhaglen iddyn nhw.

Dylai Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch:

  • Roi cyngor i chi a’ch rheolwyr ynglŷn â gofynion asesiadau risg, Systemau Gweithio’n Ddiogel, ac arolygu iechyd.
  • Gyda’r rheolwyr, cynorthwyo’r uned Iechyd Galwedigaethol i sefydlu rhaglenni arolygu iechyd newydd neu eu haddasu.
  • Cynorthwyo rheolwyr i fonitro ac adolygu gofynion asesiadau risg, Systemau Gweithio’n Ddiogel, ac arolygu iechyd.

Dylai Ymarferwyr Iechyd Galwedigaethol:

  • Arolygu iechyd yn unol â’r protocolau a’r ddeddfwriaeth a chanllawiau y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch.
  • Rhoi cyngor i chi ar ddilyn Systemau Gweithio’n Ddiogel, i ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol priodol ac i roi gwybod am unrhyw bryderon ynglŷn â’ch iechyd.
  • Rhoi gwybod i chi am unrhyw bryderon iechyd a’ch atgyfeirio i’r ymarferydd meddygol priodol.