Arferion ac arweiniad ynghylch Copilot

Diweddarwyd y dudalen: 09/07/2024

  • Dylech adolygu a gwirio'r ymatebion a gewch gan Copilot. Mae Copilot wedi'i adeiladu ar Fodelau Iaith Mawr, sef offer datblygedig sydd wedi'u cynllunio i ragfynegi a chynhyrchu testun. Weithiau, gall ymatebion Copilot gynnwys gwallau, oherwydd natur helaeth ac amrywiol modelau iaith mawr. Dylech bob amser werthuso ymatebion Copilot a chroesgyfeirio â ffynonellau dibynadwy cyn i chi eu rhannu ag unrhyw un.  

 

 

  • Gall defnyddio'r un awgrym sawl gwaith arwain at wahanol ymatebion. Mae modelau iaith mawr wedi'u hadeiladu ar rwydwaith niwral, sy'n cyflwyno rhywfaint o hap. Hyd yn oed wrth roi’r un awgrym, gallwch gael canlyniadau ychydig yn wahanol bob tro.

 

  • Defnyddiwch Copilot fel offeryn i wella eich creadigrwydd a'ch cynhyrchiant, nid yn lle eich sgiliau a'ch gwybodaeth eich hun. Mae Copilot i fod i'ch helpu, nid cymryd eich lle. Chi sy'n gyfrifol am ansawdd a chywirdeb eich gwaith, a dylech allu egluro a chyfiawnhau eich dewisiadau a'ch penderfyniadau.

 

  • Os ydych chi'n defnyddio Copilot mewn cyfarfod Teams, mae'n dda rhoi gwybod i'r cyfranogwyr eraill eich bod chi'n troi'r nodwedd drawsgrifio ymlaen.

 

  • Byddwch yn gwrtais wrth Copilot. Mae Copilot yn seiliedig ar fodelau iaith mawr ac felly, os ydych chi'n gwrtais wrth Copilot, bydd yn rhoi ymatebion o'r modelau iaith mawr hynny sydd yr un mor gwrtais a pharchus.