Canllawiau i Staff: Defnyddio Offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI)

Diweddarwyd y dudalen: 23/10/2025

1. Beth yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol?

·       Mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn cyfeirio at offer fel ChatGPT, Google Bard a Microsoft Copilot sy'n gallu creu testun, delweddau, sain neu gôd.

·       Mae'r offer hyn yn helpu gyda thasgau fel drafftio negeseuon e-bost, rhoi crynodeb o ddogfennau, a llunio adroddiadau, ond nid ydynt yn "gwybod" ffeithiau ac maent yn gallu cynhyrchu allbynnau anghywir neu ragfarnllyd.

2. I bwy y mae hyn yn berthnasol?

·       Mae'n rhaid i'r holl staff, gan gynnwys gweithwyr, gweithwyr asiantaeth, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr, a chontractwyr sy'n defnyddio cyfleusterau digidol y Cyngor, ddilyn y canllawiau hyn.

3. Yr Egwyddorion Allweddol ar gyfer Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

·       Tegwch a Chydraddoldeb: Defnyddiwch Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn deg, gan osgoi rhagfarn, a chefnogi cydraddoldeb.

·       Llywodraethu: Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r polisi hwn cyn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Os nad ydych yn siŵr, siaradwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.

·       Caffael: Mae'n rhaid i unrhyw systemau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol newydd gydymffurfio â rheolau caffael y Cyngor.

·       Safonau Cyflenwyr: Mae'n rhaid i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth ynghylch tegwch, lliniaru rhagfarn, diogelwch, a thrin data.

4. Hawlfraint a Chywirdeb

·       Peidiwch â defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i greu neu i rannu cynnwys sy'n torri rheolau hawlfraint.

·       Cofiwch adolygu a golygu allbynnau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol bob amser i sicrhau eu bod yn gywir cyn eu defnyddio. Peidiwch â defnyddio cynnwys os nad ydych yn siŵr ei fod yn gywir.

5. Cyfrinachedd a Diogelu Data

·       Peidiwch byth â defnyddio gwybodaeth gyfrinachol neu bersonol mewn offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol cyhoeddus (e.e. enwau, cyfeiriadau, manylion sensitif achosion).

·       Dilynwch yr holl gyfreithiau o ran preifatrwydd data a pholisïau'r Cyngor. Os oes amheuaeth gennych chi, peidiwch â defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gyfer data sensitif.

6. Defnydd Moesegol

·       Peidiwch â defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i greu cynnwys gwahaniaethol, sarhaus neu amhriodol.

·       Os nad ydych yn siŵr am briodoldeb defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, siaradwch â'ch rheolwr llinell.

7. Goruchwyliaeth Ddynol

·       Mae'n rhaid i'r holl benderfyniadau pwysig sy'n cael eu cefnogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol fod yn esboniadwy a'u bod wedi cael eu dogfennu.

·       Mae angen i berson adolygu'r wybodaeth cyn defnyddio allbynnau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, yn enwedig ar gyfer penderfyniadau sy'n effeithio ar unigolion neu gymunedau.

8. Risgiau a Chydymffurfiaeth

·       Byddwch yn ymwybodol o risgiau: cyfreithiol, rhagfarn, diogelwch, sofraniaeth data, a diogelu.

·       Gall Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol gynhyrchu "rhithweledigaethau" (allbynnau credadwy ond anghywir). Gwiriwch y wybodaeth bob amser.

·       Gall defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn amhriodol arwain at gamau disgyblu.

9. Hygyrchedd a'r Gymraeg

·       Sicrhewch fod offer ac allbynnau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn bodloni hygyrchedd a Safonau'r Gymraeg lle bo angen.

10. Cymorth a Manylion Cyswllt

·       Ar gyfer cwestiynau am ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth neu'r Gwasanaethau Cyfreithiol (legalservices@sirgar.gov.uk).

Nodyn

·       Mae'n orfodol cydymffurfio â'r canllawiau hyn. Gall achosion o dorri rheolau arwain at gamau disgyblu.